Caneuon Gwerin

Archwilio ac arddangos caneuon Gwerin o Gymru / Exploring and showcasing folk songs from Wales

Wel Dyma Ni’n Dwad (Cân y Fari Lwyd)

Dros y misoedd dwethaf dwi a fy ffrindiau yn y band twmpath The Spring Heeled Jacks wedi bod yn brysur yn trefnu noson Fari Lwyd Llundain ar gyfer 15 Ionawr 2016. Byddwn yn ymweld a thri tafarn cyn gorffen y noson efo twmpath yng Nghanolfan Cymry Llundain. Ym mhob tafarn byddwn yn canu Wel Dyma Ni’n Dwad (Cân y Fari Lwyd).

Y Fari Lwyd

Mae sawl erthygl dda ar y we ynglyn a’r draddodiad felly dyma esboniad fyr yn unig. Mae ‘Mari Lwyd’ yn cyferio at benglog ceffyl wedi ei addurno efo bwlb golau ar gyfer llygaid a rubanau fel mwng. Mae hwsmon yn ei thywus ar ei thaith and dydy o byth yn gallu stopio hi rhag fod yn ddireidus! Mae ceffylau yn lwcus mewn sawl diwylliant Celtaidd ac mae nhw’n dweud bod hi’n arbennig o lwcus os ydy’r Fari yn eich brathu!

Pwrpas y noson Mari Lwyd yw i ddymuno blwyddyn newydd dda i’r bobl yn eich cymuned. Yn wreiddiol roedd Mari a’i pharti yn mynd o dŷ i dŷ ar Nos Galan. Mae rhai grŵpiau dal yn mynd o gwpmas ar Nos Galan (31 Rhagfur) ond mae llawer o grŵpiau hefyd yn mynd o gwmpas yn agosach at 13 Ionawr – dyddiad y Hen Galan yn ôl y calendar Gregoraidd. Pan gyrraeddodd y Fari tŷ rhywun basau cystadlaeauth ‘pwncio’ (gwneud geiriau fyny ar y pryd) yn cymryd lle rhwng y parti tu allan a’r teulu tu fewn. Parti’r Mari basau’n ennill bob tro a felly cai’r parti mynd mewn i’r tŷ i ddymuno blwyddyn newydd dda ac i fwynhau y lluniaeth basau’r teulu wedi paratoi. Read more…

Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf

[Scroll down for English]

Mae’n flin gen i am y seiniant yn y blog yma. Mae y misoedd dwethaf wedi bod yn brysur iawn yn paratoi ar gyfer y Dance England Rapper Tournament a lansiad albwm newydd The Foxglove Trio. I ddathlu’r ffaith bod yr albwm, These Gathered Branches, wedi ei ryddhau dwi’n mynd i ail ddechrau’r blog wrth edrych ar un o’r ddwy gân Cymraeg arni – Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf.

Dwi ddim yn cofio ble clywais y gân yn gyntaf ond dwi’n amau taw oddi ar y CD Merêd oedd hi. Gan taw dyma’r blog cyntaf dwi wedi ysgrifennu ers mawolaeth Meredydd Evans yn Chwefror eleni dwi’n teimlo bod hwn yn gân priodol iawn i ysgrifennu amdano.

Mae Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf yn gân hwylus sydd yn sgwrs, neu dadl, rhwng dyn a merch. Mae’r dyn yn ceisio hudo hi ac am ran fwyaf o’r gân mae’n edrych fel ei fod yn aflwyddiannus. Ond yn y pennill olaf dysgwn fod hi wedi ffansio fo ers y cychwyn. Mae’r dyn yn dweud bod y ferch yn “lliw gwyn rhosyn yr haf” ac mae’n ‘chat up line’ sydd yn amlwg yn gweithio!

Read more…

Dyledwyr ŷm i Seinio Clod

[Scroll down for English]

Ble oeddech chi am 6 o’r gloch ar fore dydd Nadolig? Roeddwn i a fy nheulu yng Nghapel John Hughes ym Mhontrobert, Maldwyn (llun uchod oddi ar www.montgomeryshiregs.org.uk), ar gyfer y Plygain ben bore (gwelwch fy mlog o flwyddyn dwethaf am esboniad o’r draddodiad Plygain). Dyma un o dim ond ychydig o Blygeiniau sydd dal yn digwydd yn gynar ar fore Nadolig. Roedd y capel fach yn llawn a chawsom dau rownd efo chwech pharti/unigolion yn cymryd rhan. Cenais Cloch Erfyl efo fy nhad a fy mrawd yn y rownd gyntaf a Dyledwyr ŷm i Seinio Clod fel deuawd efo fy mrawd yn y ail rownd.

Darganfyddais Dyledwyr ŷm i Seinio Clod eleni wrth wrando ar fy nghopi o’r CD Ar Dymor Gaeaf: Carolau Plygain. Cefais fy nhrawio gan y llinell harmoni agos iawn, yn enwedig effeithrwydd y llinell disgynnol yn y cymal olaf. Roeddwn i’n falch o allu dod o hyd i’r gân yn llyfr Geraint Vaughan-Jones, Mwy o Hen Garolau Plygain.

Read more…

Suo Gân

(Llun gan stivoberlin ger Flickr)

[See below for English] Dyma gân prydferth sydd, fel Y Deryn Pur, wedi ei fabwysiadu gan y genre classurol a phop-classurol. Chwiliwch ar YouTube neu Spotify ac mae’r rhan fwyaf o ganlyniadau gan gorau neu cantorion fel Bryn Terfyl, Aled Jones a Charlottle Church ac mae sawl arall gan offerynnwyr, megis Elinor Bennett. Ymddangosodd y gânyn ffilm Steven Speilberg Empire of the Sun sydd wedi gwneud hi’n adnabyddus ar hyd a lled y byd. Mae hi mor boblogaidd fel gallwch clywed hi ar CD o hwiangerddi gan Fisher-Price (Tender Lullabies, 2013) a CD o ganeuon ‘Albaneg’ o’r enw Spirit of the Glen gan The Royal Scots Dragoon Guards (Universal Classics and Jazz, 2008)! Mae hi hefyd wedi trafeulu mor bell ag Ynysoedd y Philippines gyda’r Jazz-Choir of the State Children Philharmonic Society o Fanila yn dod a’r gan ‘nôl’ i Gymru wrth ei ganu yn Eisteddfod rhyngwaldol Llangollen yn 2013. Ond roedd Suo Gân yn boblogaidd yn America cyn Empire of the Sun. Gwrandewch ar y contralto Merle Alcock yn canu geiriau Saesneg ar yr alaw yn 1923 ar wefan Library of Congress yr UDA. Ar wefan cafe mudcat mae yna drafodaeth am y ffaith bod yr alaw rwan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer emyn yn America. Mae hi weithiau yn cael ei ddrysu efo cân Nadoligaidd neu crefyddol achos mae pobl wedi defnyddio’r alaw ar gyfer geiriau newydd. Ysgrifennodd y tenor Gwyddelig John McDermott, er enghraifft, geiriau Nadoligaidd ar yr alaw. Read more…

Y Sguthan

[See below for English]

Dyma gân doniol am ddau dyn ifanc sy’n mynd allan i geisio hel adar. Mae nhw’n paratoi yn dda trwy mynd a gwn a chi efo nhw a mae nhw’n meddwl eu bod nhw wedi llwyddo i ladd rhywbeth. Mae nhw’n mynd a’r aderyn gartref ond mae gwraig y tŷ yn sylwi bod rhywbeth yn arogli’n ddrwg. Mae’n dod i’r amlwg bod yr aderyn wedi marw ers meityn a bod hi’n debyg bod a dynion wedi methu lladd unrhywbeth ar eu trip hela wedi’r cyfan!

Mae’r thema yn debyg i gân yn Saesneg rydym yn perfformio efo’r Foxglove Trio o’r enw The Three Huntsmen – y tro yma 3 helwyr Cymreig sy’n aflwyddianus gan bod nhw methu cytuno beth sy’n fwytadwy.

Mae alaw y Y Sguthan yn un hwylus a syml sy’n meddwl eich bod chi’n gallu canolbwynto ar y stori digri. Mae’r geiriau yn ffraeth a real – mae hyd yn oed geiriau Saesnegaidd megus ‘dreiaf’ a ‘bacio’ ynddi. Dyden nhw ddim yn eiriau barddol iawn, ond basech chi ddim yn credu’r stori cymaint tasu’r geiriau yn fwy sgleiniog. Mae Parti Cut Lloi yn canu ambell i frawddeg yn fwy gramedegol cywir.

Roeddwn i arfer canu’r gân yma ond dwi’n meddwl bod fy mrawd, Hedd Thomas, yn ei wneud hi’n well felly fo sy’n canu yma.

Read more…

Post Navigation