Caneuon Gwerin

Archwilio ac arddangos caneuon Gwerin o Gymru / Exploring and showcasing folk songs from Wales

Mae’r Ddaear yn Glasu

[See below for English]

Dyma carol Mai, neu carol hâf. Dwi’n gwybod bod hi ddim yn Mai bellach ond mae hi’n gân mor dda – doeddwn i ddim eisiau aros 11 mis arall tan postio amdani. Ac mae hi’n bendant dal yn hâf!

Mae’r gân yma yn un o ddim ond ychydig o garolau Mai sydd wedi goroesi. Mae’n amlwg taw carol Mai yw hi oddi wrth y geiriau – mae’n sôn am y ddaear yn dod nôl i fywyd ar ôl gaeaf ddu. Mae rhai pobl yn canu’r cân yn araf gan wneud y mwyaf o’r alaw hyfryd. Roeddwn i arfer meddwl bod hwn braidd yn amhriodol oherwydd pwnc hwylus a dathliadol y gân. Ond, wedi edrych yn fwy fanwl ar y geiriau, mae yna trydydd pennill sydd yn fwy seriws sy’n cyfiawnhau y tempo arafach.

Mae’r trydydd pennill yn codi pwynt gwleidyddol sydd dal yn bethnasol heddiw. Mae’n dweud bod y ddaear yn creu digon o fwyd i bawb ond y problem yw bod dynion (h.y. pawb) ddim yn gallu byw ochr yn ochr a’u gilydd “mewn cyflwr heddychlon”. Mae fy ymchwil wedi dweud wrthai bod y geiriau i gyd wedi eu ysgrifennu gan yr un person. Oni bai am hynny, baswn i’n dyfalu bod y bennill olaf yn ‘floating verse’ gan bod hi ddim yn teimlo mor gysylltiedig i’r gân a’r ddau pennill arall. ‘Floating verse’ yw pennill sydd yn ymddangos mewn mwy nag un gân. Basau cantorion yn y gorffennol yn eu ychwanegu at eu ganeuon neu yn amnewid rhai pennillion efo ‘floating verses’ eraill. Gan fod y pennill yn cynnwys neges cryf baswn i ddim yn synnu tasau’n dod fyny mewn caneuon eraill – byddai’n cadw fy llygaid allan amdani o hyn ymlaen! Mae’r geiriau wedi eu sgwennu ar y mesur tri thrawiad, sef hen fesur (bu Ficer Rhys Prichard (g. 1579) yn canu arno) a ddaeth yn boblogaedd yn y 17fed a 18fed canrifoedd.

Read more…

Advertisements

Cadi Ha

(Cadi and Bili at Cadi Ha festival 2010. Photo from the BBC news website.)

[See below for English]

Mae Mai yn fis pwysig yn y dyddiadur gwerin. Mae’n adeg pan mae’r gwanwyn ar ei orau ac mae natyr yn dod i fywyd. Yn draddodiadol roedd y cyntaf o Fai yn ddiwrnod i ddathlu ffrwythlondeb ac efallai i ddarganfod, trwy ddewiniaeth, pwy byddech yn priodi.

Yn ogystal a bod yn enw ar gân mae Cadi Ha yn fath o ddawns ac enw ar ŵyl sydd wedi digwydd ar ddiwedd Ebrill/dechrau Mai pob blwyddyn yn Nhrefynnon, Sir y Fflint, ers 1997. Mae hi’n ŵyl dawnsio efo plant o ysgolion lleol a thimoedd dawns o Gymru a thu hwnt yn cymrud rhan mewn gorymdaith fawr trwy y dref cyn cydperfformio dawnsiau mewn sgwâr agored. Yn ystod y gorymdaith mae’r dawnswyr yn canu’r gân Cadi Ha. Dyma fideo o’r ŵyl yn 2012.

Read more…

Pan O’wn Y Gwanwyn

[SEE BELOW FOR ENGLISH]

Ar hyn o’r bryd mae cyfres o gynherddi cyffroes iawn yn digwydd yng Nghymru o’r enw Song Chain Cylch Canu. Mae llawer o gerddorion gwerin Cymru wedi dod at ei gilydd i greu rhaglen o alawon a chaneuon gwerin sy’n cynnwys rhai newydd (megis alaw gan Jamie Smith), rhai poblogaidd (fel Llongau Cernarfon) a rhai llai adnabyddus.

Gofynodd Tamsin o Theatr Mwdlan, sy’n cyd-gynhyrchu’r taith, os hoffwn i ysgrifennu rhywbeth am y gyfres Cylch Canu. Dwi eisioes wedi ysgrifennu am un o’r caneuon yn y rhaglen, Y Deryn Pur, felly dyma ychydig o sylwadau ar un o’r ganeuon llai adnabyddus, Pan O’wn Y Gwanwyn, sydd hefyd yn un weddus ar gyfer adeg yma’r flwyddyn!

Mae’r gân yn fyr ond mae’n drawiadol oherwydd yr alaw iasol. Mae’n swnio fel petai’n dod o’r canol oesoedd efo alaw ystumiol a brawddegau o wahanol hydoedd. Dwi’n meddwl bod sy’n swnio ychydig yn debyg i alaw’r gân Saesneg One Night As I Lay Upon My Bed.

Read more…

The Lass of Swansea Town / Swansea Barracks

Caneuon Cymreig yn Saesneg

Yn 2009 cefais y cyfle i ganu yng Ngwyl Gwerin Bromyard fel rhan o fy ngwobr o ennill y Fred Jordan Memorial Prize yn yr ŵyl blwyddyn yn gynharach. Roedd Paul a Liz Davenport yn perfformio mewn nifer o’r un cyngherddau a fi ac ar ôl un ohonynt cawsom sgwrs am ganeuon Cymreig mewn Saesneg. “Mae’n rhaid bod llawer iawn ohonynt ar gael” meddai Paul ond doeddwn i methu meddwl am un!

Ers cael y sgwrs yma efo’r Davenports dwi wedi bod yn cadw llygad allan am ganeuon Saesneg sydd yn dod o neu wedi eu casglu yng Nghymru ond mae nhw wedi bod yn eithaf anodd i’w darganfod! Mae’r traddodiad canu gwerin yng Ngymru wedi ei gynnal yn rhannol gan yr Eisteddfod ers degawdau felly dydy caneuon Saesneg eu hiaith ddim wedi cael yr un llwyfan a’r rhai Gymraeg. Serch hyn, dwi wedi llwyddo i ddarganfod rhai caneuon Saesneg ar CDs ac mewn archifau. Y cyntaf dwi am addangos yw The Lass of Swansea Town.

Phil Tanner
Tua 10 mlynedd yn ôl cafais CD Phil Tanner, The Gower Nightingale, yn anrheg Nadolig. Roeddwn i arfer gwrando arni yn fy ngwely min nos yng Ngoleg yr Iwerydd i ganslo allan sŵn y pobl roeddwn i’n rhannu ystafell efo! Mae’r CD yn dechrau efo trafodaeth 5 munud a hanner o hyd gan Wynford Vaughan Thomas ynglŷn â bywyd Phil a roeddwn i fel arfer yn cwympo i gysgu cyn i’r canu dechrau!

Pan llwyddais i aros ar ddihun am ddigon hir i wrando ar y caneuon roeddwn i wedi fy siomi briadd. Doedd hwn ddim yn CD o ganeuon slic oedd yn aros mewn tiwn ac efo trefiannu newydd a diddorol fel fy hoff CD ar y pryd – Ffawd gan Julie Murphy a Dylan Fowler. Fel gantores gwerin hyn a mwy aeddfed, dwi rwan yn sylweddoli bod CDs fel un Phil yn ddolen hanfodol i’r gorffennol. Bydd ddim modd i bobl fel Julie a Dylan gwneud gosodiadau newydd, cyffroes a diddorol tasu cyrff fel y BBC ddim wedi recordio pobl fel Phil.

The Lass of Swansea Town / Swansea Barracks
Ar CD The Gower Nightingale mae cân o’r enw ‘Swansea Barracks’. Mae stori y gân yn un gyfarwydd – mae dynes yn aros wrth glan y môr i’w cariad dod adref ac mae dyn yn dod heibio i ddweud wrthi bod ei chariad wedi marw. Mae Mike Waterson hefyd yn canu’r gân ond mae o wedi ychwanegu pennill lle mae’r dyn yn datgelu taw fo yw’r cariad a bod o ddim wedi marw wedi’r cyfan. Yn aml mewn caneuon fel hyn dydy’r merch ddim yn coeli’r dyn tan iddo dangos modrwy neu arwydd arbennig felly mae’r math yma o gân yn cael ei alw’n gân ‘broken token’.

Mae Brian Hicks yn dweud ar ei wefan bod o wedi dod o hyd i hyd yn oed mwy o eiriau lle mae’r dyn y profi taw fo yw’r cariad cywir trwy dangos craith ar ei frest. Dydy’r geiriau hyn ddim yn ffitio’r alaw yn dda iawn felly dwi ddim yn defnyddio nhw. Efallai bod Brian Hicks yn defnyddio alaw amgen.
Mae Phil Tanner yn canu mewn tempo eithaf hwylus ond mae Jon Boden (a dysgodd hi gan Mike Waterson) yn mynd i’r cyfeiriad gwahanol gan ganu hi’n araf a thrist. Mae hwn yn gweddus i lawer o’r cân ond, yn fy marn i, mae geiriau cariadus y corws a’r pennill olaf ychwanegol yn gwneud hi’n gân gobeithiol felly dwi’n hoffi canu hi mewn arddull mwy fel Phil Tanner.

Gwreiddiau
Mae sawl wraidd posib i’r gân yma. Yr un mwyaf amlwg yw bod hi’n gân sydd wedi ei ysgrifennu, canu a chasglu yn ardal Abertawe. Daeth y gân i’r amlwg ar ôl i Phil cael ei a recordio gan y BBC ar 20 Mai, 1949 ym Mhenmaen. Ymddangosodd y recordiad ar Phil Tanner (EFDSS, 1968), A Soldier’s Life for Me (The Folk Songs of Britain Volume 8; Topic, 1970) a The Gower Nightingale (Veteran, 2003). Cafodd Phil eni a’i magu yn y Gwŷr ac os taw fo ydy’r unig person mae’r gân wedi cael ei gasglu oddi wrth, a gan for y gân wedi ei osod yn Abertawe, gallwn tybio taw gân Cymreig yw hwn. Hefyd, mae Ceri Rhys Matthews yn credu bod Phil wedi cyfansoddi’r alaw ei hun. Os ydy hyn yn wir mae’r gân yn o leisf hanner Cymreig.

Ond dydy pawb ddim yn cytuno efo hwn. Dywedai Peter Kennedy yn nodiadau A Soldier’s Life for Me bod y gân yn fersiwn o’r gân Gwyddelig ‘The Blooming Rose of Antrim’ / ‘The Flower of Corby Mill’. Yn nodiadau The Gower Nightingale mae Roy Palmer yn anghytuno efo hyn. Mae o’n nodi bod argraffwyr arfer creu taflenni o’r enw ‘The Lass of -Shire’ fel bod y cantorion yn gallu ychwanegu enw eu hardal nhw i’r gân.

Cyhoeddwyd John Harkness (Preston) a Birt (Llundain) ‘The Lass of -Town’ efo cyfarwyddion bod hi i’w ganu ar yr alaw Irish Molly O ond dydy Phil Tanner ddim yn canu i’r alaw yma. Mae fy ffrind Laura Smyth yn canu gân o’r enw ‘The Lass of Manchester Town’ efo alaw tebyg ‘The Lass of Swansea Town’ Phil Tanner ac roedd band o’r enw Oak yn canu ‘The Lass of Newcastle Town’ felly mae’r esboniad yma yn dal dŵr. Serch hyn, mae Palmer yn ddatgan yn hyderus “Suggestions that there is an Irish version of this song, as The Blooming Rose of Antrim, have proved unfounded, and Phil Tanner’s recording is apparently unique.”

Ar wefan the Digital Tradition Mirror mae’n dweud bod y geiriau (rhai Brian Hicks, nid Phil Tanner) wedi eu casglu gan y teulu Kenny o Kitchuses, Newfoundland, a hefyd bod Ken Peacock wedi trawsysgrifio hi gan ganu Harry Curtis o Joe Batt’s Arm, Newfoundland, yng Ngorffennaf 1952. Dwedodd Harry bod o wedi dysgu’r gân pan stopiodd ei long cargo yng Ngymru pan oedd o’n gweithio ar y llong.

Ble nesaf
Gallwch clywed fersiynnau o’r gân yn y llefydd canlynol:

Phil Tanner, Phil Tanner, EFDSS, 1968
Phil Tanner, A Soldier’s Life for Me, The Folk Songs of Britain Volume 8, Topic, 1970
Phil Tanner,The Gower Nightingale, Veteran, 2003
Roy Harris, The Rambling Sailor, Fellside Recodings Ltd, 1995
Mike Waterson, Mike Waterson, Topic, 1999
The Watersons, Mighty River of Song, Topic, 2004
The Watersons, For Pence and Spicy Ale, Topic, 2006
Jon Boden, A Folk Song A Day: March, Navigator Records, 2011

Yn ol y wefan Digital Tradition Mirror mae hi wedi ei gyhoeddi yn Songs of the Newfoundland Outports gan Amgueddfa Cenedlaethol Canada, 1965.

Os hoffech clywed mwy o ganeuon gwerin ynglŷn ag Abertawe chwiliwch am ‘Swansea Town’ neu ‘I’m Going Home to Swansea Town’ sy’n cael ei ganu i alaw y gân ‘Holy Ground’ ac sydd i’w gael ar:
Max Boyce, The Very Best of Max Boyce, 2005,
The Sherringham Shantymen, All at Sea, Clovelly Recordings Ltd, 2008
The Band of the Prince of Wales’ Division, We’ll Keep a Welcome, Bandleader Records, 2010

Welsh songs in English

In 2009 I was give the opportunity to sing at Bromyard Folk Festival as part of my reward for having won the Fred Jordan Memorial Prize at the festival the previous year. Paul and Liz Davenport were performing in several of the same concerts as me and after one of them we had a chat about English language Welsh songs. Paul said there must be loads of them but I couldn’t think of any!

Since having this chat with the Davenports I’ve been keeping an eye out for songs in English which come from or have been collected in Wales but they’ve been quite hard to find! For decades the folk song tradition in Wales has been partly sustained by the Eisteddfod so English language songs haven’t been given the same platform as the Welsh language ones. Nevertheless, I’ve been able to find a few English songs on CDs and in archives. The first one I want to showcase is The Lass of Swansea Town.

Phil Tanner

About 10 years ago I received Phil Tanner’s CD, The Gower Nightingale, for Christmas. I used to listen to it in bed at night to cancel out the noise of my Atlantic College dorm mates! The CD begins with a 5 and a half minute speech by Wynford Vaughan Williams about Phil’s life so I usually fell asleep before the singing started!

When I managed to stay awake long enough to listen to the songs I was a bit disappointed. This wasn’t a CD of slick songs sung in tune with interesting, new arrangements like you could find on my favourite CD at the time – Ffawd by Julie Murphy and Dylan Fowler. As an older, more mature folk singer, I’ve now realised that CDs like Phil’s are an essential link to the past. It wouldn’t be possible for people like Julie and Dylan to create new, interesting, different arrangements if organisations like the BBC hasn’t recorded people like Phil.

The Lass of Swansea Town / Swansea Barracks

On Phil’s CD there’s a song called Swansea Barracks. The song’s story is familiar – a woman by the sea shore is waiting for her lover to come home and a man comes by to tell her that her love has died. Mike Waterson also sang this song – albeit with the title The Lass of Swansea Town – and he added an extra verse in which the man reveals himself to be the woman’s lover, alive and well. Often in songs like this the woman doesn’t believe the man until he shows her a ring or a special sign so this type of song is called a ‘broken token’ song.

On his website Brian Hicks says that he has found even more lyrics where the man proves that he is the true lover by showing her a scar on his chest. These extra words don’t fit the tune very well so I don’t use them. Perhaps Brian Hicks uses an alternative tune.
Phil Tanner sings the song in an upbeat tempo but Jon Boden (who learnt it from Mike Waterson) goes in the opposite direction singing it slowly and sadly. This is appropriate for a lot of the song but, in my opinion, the loving words of the chorus and the additional last verse make it a hopeful song, so I prefer to sing it in more of a Phil Tanner style.

Origins

This song has several possible origins. The most obvious is that it’s a song written, sung and collected in the Swansea area. The song came to light when Phil was recorded by the BBC on 20 May, 1949 in Penmaen. The recording appeared on Phil Tanner (EFDSS, 1968), A Soldier’s Life for Me (The Folk Songs of Britain Volume 8; Topic, 1970) a The Gower Nightingale (Veteran, 2003). Phil was born and bred in the Gower and if he’s the only person it’s been collected from, and as the song is set in Swansea, we can presume that it’s a Welsh song. Also, Ceri Rhys Matthews believes that Phil composed the tune himself which would make the song at least half Welsh!

But not everyone agrees. Peter Kennedy said ih the sleeve notes for A Soldier’s Life for Me that the song is a version of the Irish song ‘The Blooming Rose of Antrim’ / ‘The Flower of Corby Mill’. In The Gower Nightingale sleeve notes Roy Palmer refutes this. He notes that publishers used to create sheets called ‘The Lass of -Shire’ so that singers could insert the name of their area into the song.

John Harkness of Preston and Birt of London published ‘The Lass of -Town’ with instructions that it should be sung to the tune of Irish Molly O but this isn’t the tune that Phil Tanner uses. My friend Laura Smyth sings a song called ‘The Lass of Manchester Town’ to a similar tune to ‘The Lass of Swansea Town’ and a band called Oak used to sing ‘The Lass of Newcastle Town’ so this explanation makes sense. Despite this, Palmer confidently states “Suggestions that there is an Irish version of this song, as The Blooming Rose of Antrim, have proved unfounded, and Phil Tanner’s recording is apparently unique.”

On the Digital Tradition Mirror website it says that the words (Brian Hicks’ words, not Phil Tanner’s) were collected from the Kenny family from Kitchuses, Newfoundland, and also that Ken Peacock had transcribed it from the singing of Harry Curtis from Joe Batt’s Arm, Newfoundland, in July 1952. Harry said they he had learnt the song when the cargo vessel he was working on stopped in Wales.

Where next?

You can hear versions of the song in the following places:
Phil Tanner, Phil Tanner, EFDSS, 1968
Phil Tanner, A Soldier’s Life for Me, The Folk Songs of Britain Volume 8, Topic, 1970
Phil Tanner,The Gower Nightingale, Veteran, 2003
Roy Harris, The Rambling Sailor, Fellside Recodings Ltd, 1995
Mike Waterson, Mike Waterson, Topic, 1999
The Watersons, Mighty River of Song, Topic, 2004
The Watersons, For Pence and Spicy Ale, Topic, 2006
Jon Boden, A Folk Song A Day: March, Navigator Records, 2011

Songs of the Newfoundland Outports by the National Museum of Canada, 1965.

If you’d like to hear more folk songs about Swansea try ‘Swansea Town’ or ‘I’m Going home to Swansea Town’ which sung to the tune of a song called ‘Holy Ground’ and is available on:
Max Boyce, The Very Best of Max Boyce, 2005,
The Sherringham Shantymen, All at Sea, Clovelly Recordings Ltd, 2008
The Band of the Prince of Wales’ Division, We’ll Keep a Welcome, Bandleader Records, 2010

This song has also been arranged by Holst and this can be found on these CDs, amoung many others:
Treorchy Male Voice Choir, Songs You Have Loved, EMI Records Ltd, 2009
Robert Shaw Chorale, Sea Shanties, BMG Music (the holst arrangement), 1961,

http://www.fresnostate.edu/folklore/ballads/Pea547.html
http://collections.mun.ca/cdm4/item_viewer.php?CISOROOT=/munfla_list&CISOPTR=2642
http://www.worldcat.org/title/swansea-town-hampshire-folk-song/oclc/12193484 – which version?
http://en.wikipedia.org/wiki/User:Geofferybard/Draft_Essay_on_Videographic_Documentation
http://www.youtube.com/watch?v=eEDkZMzhMCg

Carol ar fesur ‘Llygoden yn y Felin’

[SCROLL DOWN FOR ENGLISH]

Mae’r cyfnod Plygain rwan yn para hyd at yr ail Sul ar ôl Nadolig felly dwi ddim yn rhy hwyr yn postio’r gân Plygain olaf. Fel dwedais mewn postiau gynharach mae’r garol Plygain arferol yn cael ei ganu gan dri person mewn tri llais. Serch hyn, mae sawl deuawd ac unawd ar gael hefyd. Mae Carol ar fesur ‘Llygoden yn y Felin’ yn un o’r deuawdau yma.

Bugeiliad ac angylion ohttp://www.radical.net/blog/2012/12/christmas-hymn/

Bugeiliad ac angylion ohttp://www.radical.net/blog/2012/12/christmas-hymn/

Mae’r gân yn rhanu nodweddion efo rhai o’r garolau Plygain eraill dwi wedi ysgrifennu amdanynt. Fel Daeth Nadolig mae’r pwnc yn Nadoligaidd ac mae’r gair ‘Plygain’ hyd yn oed yn ymddangos ynddi. Mae’r geiriau yn canolbwyntio ar yr angylion a’u cân. Dwi’n hoffi’r delwedd ar ddechrau’r ail bennill lle mae’n dweud taw canu’r angylion uwch Bethlehem byddai’r Plygain fwyaf erioed.

Mae strwythyr cerddorol y gân yn ddiddorol – dim ond 2 pennill sydd ganddi ond mae nhw’n benillion hir. Mae’r alaw yn un draddodiadol (gwler isod) felly mae’r strwythyr yn gwneud synwyr – mae gan y rhan fwyaf o alawon werin strwythyr AABB. Dim ond 2 bar mae pob llinell o eiriau yn cymryd i’w ganu sy’n golygu bod amser am 16 llinell o fewn pob pennill. Yn ffodus, mae’r alaw yn ddiddorol felly dydych chi ddim yn diflasu wrth wrando arni!

Gwreiddiau

Fy nhad, David Thomas, a brawd, Hedd, sy’n canu yma. Cafon nhw y gân allan o’r llyfr Mwy o Garolau Plygain gan Geraint Vaughan-Jones.

Mae fy nhad a brawd yn galw’r gân yn ‘Llygoden yn y Felin’ ond mewn gwirionedd does gan y gân ddim teitl – yn y llyfr “Carol ar fesur ‘Llygoden yn yr Eglwys'” yw ei enw ond mae hwn yn ddisgrifiad yn fwy nag enw. Mae Llygoden yn y Felin yn alaw werin traddodiadol a felly mae’r cân yma yn eistedd yn gofforddus yn y draddodiad o ganeuon Plygain a chaneuon gwerin sydd wedi rhoi geiriau newydd ar alaw oedd yn bodoli yn barod.

Yn ôl Dr Chris Groom yn Enwau Alawon – Llyfrau a Llawysgrifau Cymraeg: 17g-19g mae’r alaw yn ymddangos yn Gardd o Gerddi, Neu, Gasgiad o Ganiadau: Sef, Carolau, Marwnadau, Cerddi, Awdlau, Englynion, Cywyddau, &c. Gwedi eu cyfansoddi ar amrywiol Destynau a Mesurau (Rhuthin: R. Jones, 1826) fel alaw ar gyfer y gerdd ‘Cerdd Ymddyrchafiaeth yr hwsmon’ gan Thomas Edawrds (neu Twm o’r Nant). Gwyddem felly bod yr alaw yn bodoli rhywbryd cyn 1826. Enw arall ar gyfer yr alaw yw Duc o Dero. Yn Mwy o Garolau Plygain T. Williams yw’r enw wrth y geiriau ond dydw i ddim yn gwybod dim o’i hanes yn anffodus.

Ble Nesaf

Hyd y gwn i does neb wedi recordio’r carol. Mae yna trac ar CD Mabsant o’r enw Ton Gron (Fflach, 1990) o’r enw ‘Llamiad Bach o Gwrw / Llygoden yn y Felin’ ond nid alaw y garol mae nhw’n chwarae.

Geiriau

Gwrandewch yn llon a dewch yn llu,
Dadseiniwn yn gysonol gân
Gan uno’n deg o fewn ei dŷ,
Rhown glod i’r Iesu glân;
Heddiw yn deg cyhoeddiad yw
I ddynol ryw, trwy dduwiol ras
I gofio’r dydd y daeth Mab Duw,
Oen gwiw, mewn agwedd gwas;
Fe ddaeth angylion llon eu llef
I gario n’wyddion gorau’r Nef.
Gan ddweud heb gêl wrth y bugeiliaid
Y dydd y ganed Ef –
“Mae uchel Geidwad, yn ddyn gwael –
Sef Crist yr Arglwydd hylwydd hael
Yn ninas Dafydd ar y wawr dydd
Ar gynnydd i chwi gael.”

Y blygain gynta’ a’r fwya’ fu
Rhwng gwychion lu goruwch y llawr,
Yn seinio cân ag atsain cu
Am eni’r Iesu mawr;
Gogoniant Duw a ganent hwy
Mewn canmoladwy seingar lef
Tangnefedd rhad i ninnau trwy
Ei fawr gynhorthwy Ef;
Cael yr Eneiniog gyda’r wawr
Yn godiad myrdd, yn Geidwad mawr,
Cyfiawnder Duwdod yn y dyndod
I achub llychod llawr;
Nid clywed n’wyddion lwysion lef
Oedd ddigon, gwelwn, i’r bugeiliaid,
Ond “Awn i’w weled Ef!”

Carol to the tune of ‘Mouse in the Mill’

The Plygain season now lasts until the second Sunday after Christmas so I’m not too late posting this final Plygain song. As I said in previous posts Plygain carols are usually sung by three people in three part. However, there are also several duets and solos. Carol as fesur ‘Llygoden yn y Felin’ is one of these duets.

This song shares several characteristics with other Plygain carols I’ve written about. Like Daeth Nadolig the topic is very Christmassy and the word ‘Plygain’ ever appears in the lyrics. The words focus on the angels and their song. I like the image at the beginning of the second verse where the lyrics tell us that the angels singing above Bethlehem was be the biggest Plygain ever.

The song’s musical structure is interesting – it’s only got 2 verses but they’re long ones. The tune is traditional (see below) so the structure makes sense – most folk tunes have an AABB structure. Each line of lyrics only takes two bars to be sung so there’s time for 16 lines of text in each verse! Fortunately the tune is interesting so you don’t get bored listening to it!

Origins

It’s my dad, David Thomas, and brother, Hedd, who are singing here. They got the song out of the Mwy o Garolau Plygain book by Geraint Vaughan-Jones.

My dad and brother call the song ‘Llygoden yn y Felin’ (Mouse in the Mill) but it the song doesn’t really have a title – in the book it’s called “Carol ar fesur ‘Llygoden yn y Felin'” (Carol on the ‘Mouse in the Mill’ metre) but this is a description more than a name. Llygoden yn y Felin is a traditional tune so this song sits comfortably in the long tradition of folk and Plygain song lyrics being written to fit with a pre-existing tune.

According to Dr Chris Groom in Melody Names – Select Welsh Books and Manuscripts: 17c-19c the tune appears in Gardd o Gerddi, Neu, Gasgiad o Ganiadau: Sef, Carolau, Marwnadau, Cerddi, Awdlau, Englynion, Cywyddau, &c. Gwedi eu cyfansoddi ar amrywiol Destynau a Mesurau (Rhuthin: R. Jones, 1826) as a tune for the poem ‘Cerdd Ymddyrchafiaeth yr hwsmon’ (The exaltation of the farm bailiff) by Thomas Edwards (aka Twm o’r Nant). We therefore know that the tune existed sometime before 1826. The tune is sometimes also called Duc o Dero. In Mwy o Garolau Plygain the book the words are attributed to T. Williams but unfortunately I don’t know anything about him.

Where next

As far as I know no one has recorded the carol. There’s a track on Mabsant’s CD Ton Gron (Fflach, 1990) called ‘Llamiad Bach o Gwrw / Llygoden yn y Felin’ but the tune they play isn’t the same as the one for the carol.

Lyrics

Listen gladly and come in your droves,
We’ll sing out our constant song,
In unity within His house,
We’ll praise the holy Jesus;
Today the fine announcement is
For mankind, through the godly race
To remember the day that God’s Son came,
Meet lamb, in the form of a servant;
The angels came in merry voice
To carry the best news of Heaven.
Telling the shepherds truthfully
On the day He was born –
“The high Saviour, is now a lowly man –
Christ the Lord will prosper greatly
In David’s city at the break of day
He will help you all to progress.”

The first and biggest every plygain took place
Between the brilliant host above the ground,
Singing a song with a fond echo
About the birth of the great Jesus;
They sing of God’s glory
In a praiseworthy sonorous voice
We will gain a gracious peace through
His great help;
The Messiah comes with the dawn
A myriad with arise, the great Saviour,
The righteousness of the Godly in humanity
To save the dust of the earth;
Hearing the news from the kingdom of heaven
From the holy angels’ voices
Was not enough, we see, for the shepherds
So they said “Let’s go and see Him!”

Post Navigation

%d bloggers like this: