Caneuon Gwerin

Archwilio ac arddangos caneuon Gwerin o Gymru / Exploring and showcasing folk songs from Wales

Archive for the tag “duc o dero”

Carol ar fesur ‘Llygoden yn y Felin’

[SCROLL DOWN FOR ENGLISH]

Mae’r cyfnod Plygain rwan yn para hyd at yr ail Sul ar ôl Nadolig felly dwi ddim yn rhy hwyr yn postio’r gân Plygain olaf. Fel dwedais mewn postiau gynharach mae’r garol Plygain arferol yn cael ei ganu gan dri person mewn tri llais. Serch hyn, mae sawl deuawd ac unawd ar gael hefyd. Mae Carol ar fesur ‘Llygoden yn y Felin’ yn un o’r deuawdau yma.

Bugeiliad ac angylion ohttp://www.radical.net/blog/2012/12/christmas-hymn/

Bugeiliad ac angylion ohttp://www.radical.net/blog/2012/12/christmas-hymn/

Mae’r gân yn rhanu nodweddion efo rhai o’r garolau Plygain eraill dwi wedi ysgrifennu amdanynt. Fel Daeth Nadolig mae’r pwnc yn Nadoligaidd ac mae’r gair ‘Plygain’ hyd yn oed yn ymddangos ynddi. Mae’r geiriau yn canolbwyntio ar yr angylion a’u cân. Dwi’n hoffi’r delwedd ar ddechrau’r ail bennill lle mae’n dweud taw canu’r angylion uwch Bethlehem byddai’r Plygain fwyaf erioed.

Mae strwythyr cerddorol y gân yn ddiddorol – dim ond 2 pennill sydd ganddi ond mae nhw’n benillion hir. Mae’r alaw yn un draddodiadol (gwler isod) felly mae’r strwythyr yn gwneud synwyr – mae gan y rhan fwyaf o alawon werin strwythyr AABB. Dim ond 2 bar mae pob llinell o eiriau yn cymryd i’w ganu sy’n golygu bod amser am 16 llinell o fewn pob pennill. Yn ffodus, mae’r alaw yn ddiddorol felly dydych chi ddim yn diflasu wrth wrando arni!

Gwreiddiau

Fy nhad, David Thomas, a brawd, Hedd, sy’n canu yma. Cafon nhw y gân allan o’r llyfr Mwy o Garolau Plygain gan Geraint Vaughan-Jones.

Mae fy nhad a brawd yn galw’r gân yn ‘Llygoden yn y Felin’ ond mewn gwirionedd does gan y gân ddim teitl – yn y llyfr “Carol ar fesur ‘Llygoden yn yr Eglwys'” yw ei enw ond mae hwn yn ddisgrifiad yn fwy nag enw. Mae Llygoden yn y Felin yn alaw werin traddodiadol a felly mae’r cân yma yn eistedd yn gofforddus yn y draddodiad o ganeuon Plygain a chaneuon gwerin sydd wedi rhoi geiriau newydd ar alaw oedd yn bodoli yn barod.

Yn ôl Dr Chris Groom yn Enwau Alawon – Llyfrau a Llawysgrifau Cymraeg: 17g-19g mae’r alaw yn ymddangos yn Gardd o Gerddi, Neu, Gasgiad o Ganiadau: Sef, Carolau, Marwnadau, Cerddi, Awdlau, Englynion, Cywyddau, &c. Gwedi eu cyfansoddi ar amrywiol Destynau a Mesurau (Rhuthin: R. Jones, 1826) fel alaw ar gyfer y gerdd ‘Cerdd Ymddyrchafiaeth yr hwsmon’ gan Thomas Edawrds (neu Twm o’r Nant). Gwyddem felly bod yr alaw yn bodoli rhywbryd cyn 1826. Enw arall ar gyfer yr alaw yw Duc o Dero. Yn Mwy o Garolau Plygain T. Williams yw’r enw wrth y geiriau ond dydw i ddim yn gwybod dim o’i hanes yn anffodus.

Ble Nesaf

Hyd y gwn i does neb wedi recordio’r carol. Mae yna trac ar CD Mabsant o’r enw Ton Gron (Fflach, 1990) o’r enw ‘Llamiad Bach o Gwrw / Llygoden yn y Felin’ ond nid alaw y garol mae nhw’n chwarae.

Geiriau

Gwrandewch yn llon a dewch yn llu,
Dadseiniwn yn gysonol gân
Gan uno’n deg o fewn ei dŷ,
Rhown glod i’r Iesu glân;
Heddiw yn deg cyhoeddiad yw
I ddynol ryw, trwy dduwiol ras
I gofio’r dydd y daeth Mab Duw,
Oen gwiw, mewn agwedd gwas;
Fe ddaeth angylion llon eu llef
I gario n’wyddion gorau’r Nef.
Gan ddweud heb gêl wrth y bugeiliaid
Y dydd y ganed Ef –
“Mae uchel Geidwad, yn ddyn gwael –
Sef Crist yr Arglwydd hylwydd hael
Yn ninas Dafydd ar y wawr dydd
Ar gynnydd i chwi gael.”

Y blygain gynta’ a’r fwya’ fu
Rhwng gwychion lu goruwch y llawr,
Yn seinio cân ag atsain cu
Am eni’r Iesu mawr;
Gogoniant Duw a ganent hwy
Mewn canmoladwy seingar lef
Tangnefedd rhad i ninnau trwy
Ei fawr gynhorthwy Ef;
Cael yr Eneiniog gyda’r wawr
Yn godiad myrdd, yn Geidwad mawr,
Cyfiawnder Duwdod yn y dyndod
I achub llychod llawr;
Nid clywed n’wyddion lwysion lef
Oedd ddigon, gwelwn, i’r bugeiliaid,
Ond “Awn i’w weled Ef!”

Carol to the tune of ‘Mouse in the Mill’

The Plygain season now lasts until the second Sunday after Christmas so I’m not too late posting this final Plygain song. As I said in previous posts Plygain carols are usually sung by three people in three part. However, there are also several duets and solos. Carol as fesur ‘Llygoden yn y Felin’ is one of these duets.

This song shares several characteristics with other Plygain carols I’ve written about. Like Daeth Nadolig the topic is very Christmassy and the word ‘Plygain’ ever appears in the lyrics. The words focus on the angels and their song. I like the image at the beginning of the second verse where the lyrics tell us that the angels singing above Bethlehem was be the biggest Plygain ever.

The song’s musical structure is interesting – it’s only got 2 verses but they’re long ones. The tune is traditional (see below) so the structure makes sense – most folk tunes have an AABB structure. Each line of lyrics only takes two bars to be sung so there’s time for 16 lines of text in each verse! Fortunately the tune is interesting so you don’t get bored listening to it!

Origins

It’s my dad, David Thomas, and brother, Hedd, who are singing here. They got the song out of the Mwy o Garolau Plygain book by Geraint Vaughan-Jones.

My dad and brother call the song ‘Llygoden yn y Felin’ (Mouse in the Mill) but it the song doesn’t really have a title – in the book it’s called “Carol ar fesur ‘Llygoden yn y Felin'” (Carol on the ‘Mouse in the Mill’ metre) but this is a description more than a name. Llygoden yn y Felin is a traditional tune so this song sits comfortably in the long tradition of folk and Plygain song lyrics being written to fit with a pre-existing tune.

According to Dr Chris Groom in Melody Names – Select Welsh Books and Manuscripts: 17c-19c the tune appears in Gardd o Gerddi, Neu, Gasgiad o Ganiadau: Sef, Carolau, Marwnadau, Cerddi, Awdlau, Englynion, Cywyddau, &c. Gwedi eu cyfansoddi ar amrywiol Destynau a Mesurau (Rhuthin: R. Jones, 1826) as a tune for the poem ‘Cerdd Ymddyrchafiaeth yr hwsmon’ (The exaltation of the farm bailiff) by Thomas Edwards (aka Twm o’r Nant). We therefore know that the tune existed sometime before 1826. The tune is sometimes also called Duc o Dero. In Mwy o Garolau Plygain the book the words are attributed to T. Williams but unfortunately I don’t know anything about him.

Where next

As far as I know no one has recorded the carol. There’s a track on Mabsant’s CD Ton Gron (Fflach, 1990) called ‘Llamiad Bach o Gwrw / Llygoden yn y Felin’ but the tune they play isn’t the same as the one for the carol.

Lyrics

Listen gladly and come in your droves,
We’ll sing out our constant song,
In unity within His house,
We’ll praise the holy Jesus;
Today the fine announcement is
For mankind, through the godly race
To remember the day that God’s Son came,
Meet lamb, in the form of a servant;
The angels came in merry voice
To carry the best news of Heaven.
Telling the shepherds truthfully
On the day He was born –
“The high Saviour, is now a lowly man –
Christ the Lord will prosper greatly
In David’s city at the break of day
He will help you all to progress.”

The first and biggest every plygain took place
Between the brilliant host above the ground,
Singing a song with a fond echo
About the birth of the great Jesus;
They sing of God’s glory
In a praiseworthy sonorous voice
We will gain a gracious peace through
His great help;
The Messiah comes with the dawn
A myriad with arise, the great Saviour,
The righteousness of the Godly in humanity
To save the dust of the earth;
Hearing the news from the kingdom of heaven
From the holy angels’ voices
Was not enough, we see, for the shepherds
So they said “Let’s go and see Him!”

Post Navigation