Caneuon Gwerin

Archwilio ac arddangos caneuon Gwerin o Gymru / Exploring and showcasing folk songs from Wales

Archive for the tag “tradition”

Wel Dyma Ni’n Dwad (Cân y Fari Lwyd)

Dros y misoedd dwethaf dwi a fy ffrindiau yn y band twmpath The Spring Heeled Jacks wedi bod yn brysur yn trefnu noson Fari Lwyd Llundain ar gyfer 15 Ionawr 2016. Byddwn yn ymweld a thri tafarn cyn gorffen y noson efo twmpath yng Nghanolfan Cymry Llundain. Ym mhob tafarn byddwn yn canu Wel Dyma Ni’n Dwad (Cân y Fari Lwyd).

Y Fari Lwyd

Mae sawl erthygl dda ar y we ynglyn a’r draddodiad felly dyma esboniad fyr yn unig. Mae ‘Mari Lwyd’ yn cyferio at benglog ceffyl wedi ei addurno efo bwlb golau ar gyfer llygaid a rubanau fel mwng. Mae hwsmon yn ei thywus ar ei thaith and dydy o byth yn gallu stopio hi rhag fod yn ddireidus! Mae ceffylau yn lwcus mewn sawl diwylliant Celtaidd ac mae nhw’n dweud bod hi’n arbennig o lwcus os ydy’r Fari yn eich brathu!

Pwrpas y noson Mari Lwyd yw i ddymuno blwyddyn newydd dda i’r bobl yn eich cymuned. Yn wreiddiol roedd Mari a’i pharti yn mynd o dŷ i dŷ ar Nos Galan. Mae rhai grŵpiau dal yn mynd o gwpmas ar Nos Galan (31 Rhagfur) ond mae llawer o grŵpiau hefyd yn mynd o gwmpas yn agosach at 13 Ionawr – dyddiad y Hen Galan yn ôl y calendar Gregoraidd. Pan gyrraeddodd y Fari tŷ rhywun basau cystadlaeauth ‘pwncio’ (gwneud geiriau fyny ar y pryd) yn cymryd lle rhwng y parti tu allan a’r teulu tu fewn. Parti’r Mari basau’n ennill bob tro a felly cai’r parti mynd mewn i’r tŷ i ddymuno blwyddyn newydd dda ac i fwynhau y lluniaeth basau’r teulu wedi paratoi. Read more…

Advertisements

Mae’r Ddaear yn Glasu

[See below for English]

Dyma carol Mai, neu carol hâf. Dwi’n gwybod bod hi ddim yn Mai bellach ond mae hi’n gân mor dda – doeddwn i ddim eisiau aros 11 mis arall tan postio amdani. Ac mae hi’n bendant dal yn hâf!

Mae’r gân yma yn un o ddim ond ychydig o garolau Mai sydd wedi goroesi. Mae’n amlwg taw carol Mai yw hi oddi wrth y geiriau – mae’n sôn am y ddaear yn dod nôl i fywyd ar ôl gaeaf ddu. Mae rhai pobl yn canu’r cân yn araf gan wneud y mwyaf o’r alaw hyfryd. Roeddwn i arfer meddwl bod hwn braidd yn amhriodol oherwydd pwnc hwylus a dathliadol y gân. Ond, wedi edrych yn fwy fanwl ar y geiriau, mae yna trydydd pennill sydd yn fwy seriws sy’n cyfiawnhau y tempo arafach.

Mae’r trydydd pennill yn codi pwynt gwleidyddol sydd dal yn bethnasol heddiw. Mae’n dweud bod y ddaear yn creu digon o fwyd i bawb ond y problem yw bod dynion (h.y. pawb) ddim yn gallu byw ochr yn ochr a’u gilydd “mewn cyflwr heddychlon”. Mae fy ymchwil wedi dweud wrthai bod y geiriau i gyd wedi eu ysgrifennu gan yr un person. Oni bai am hynny, baswn i’n dyfalu bod y bennill olaf yn ‘floating verse’ gan bod hi ddim yn teimlo mor gysylltiedig i’r gân a’r ddau pennill arall. ‘Floating verse’ yw pennill sydd yn ymddangos mewn mwy nag un gân. Basau cantorion yn y gorffennol yn eu ychwanegu at eu ganeuon neu yn amnewid rhai pennillion efo ‘floating verses’ eraill. Gan fod y pennill yn cynnwys neges cryf baswn i ddim yn synnu tasau’n dod fyny mewn caneuon eraill – byddai’n cadw fy llygaid allan amdani o hyn ymlaen! Mae’r geiriau wedi eu sgwennu ar y mesur tri thrawiad, sef hen fesur (bu Ficer Rhys Prichard (g. 1579) yn canu arno) a ddaeth yn boblogaedd yn y 17fed a 18fed canrifoedd.

Read more…

Cloch Erfyl

[Scroll down for English]

Ychydig o flynyddoedd yn ôl penderfynnais i, fy nhad a fy mrawd i ddysgu un neu ddau o ganeuon Plygain baswn ni’n gallu canu fel triawd o amgylch gwasnaethau Maldwyn. Doedden ni ddim eisiau gwneud un o’r rhai poblogaidd, megus Daeth Nadolig, neu basau’n rhaid i ni wastad gwneud yn siwr ein bod ni’n canu’n gyntaf rhag ofn i barti arall canu’r gân cyn ni! Aethom felly trwy y ddau lyfr o garolau Plygain cafodd eu casglu gan Geraint Vaughan-Jones o’r enw Hen Garolau Plygain a Mwy o Garolau Plygain a dod o hyd i Gloch Erfyl a Bryniau Iwerddon. I’n mawr rhyddhad dyden ni ddim eto wedi clywed rhywun arall yn canu’r caneuon hyn mewn gwasanaeth Plygain.

Nativity scene from photobucket.

Nativity scene from photobucket.

Fel Daeth Nadolig, mae Cloch Erfyl yn gân Plygain sy’n sôn am stori geni Crist. Ond, fel llawer o ganeuon Plygain, mae hi hefyd yn sôn am y groes a Chalfari sy’n gwneud hi’n fwy ddifrifol na llawer o garolau modern.

Dwi’n hoffi strwythyr gerddorol y gân – mae’r strywthyr AABA yn rhoi brîg naturiol yn y 5ed a’r 6ed llinellau. Mae geiriau y llinellau yn y tri pennill yn addus iawn i’r brîg gerddorol gan bod nhw’n sôn am gweld Iesu am y tro cyntaf, canu efo’r angylion a Hosanna llon. Dwi hefyd yn hoffi y tamed bach o boliffoni ar ddiwedd ar adrannau A.

Gwreiddiau

Yn anffodus does dim nodiadau ar gael ar y caneuon yn Hen Garolau Plygain. Mae gan y rhan fwyaf ohonynt enw awdur ar ôl y geiriau felly gwyddem taw Geraint Vaughan-Jones ei hun ysgrifennodd y geiriau i Gloch Erfyl yn 1983. Mae’r ffaith bod hi ddim wedi ei sgwennu tan diwedd yr ugeinfed ganrif yn esbonio pam fod ganddi dim ond 3 pennill – mae rhai caneuon Plygain llawer yn hirach ac yn dod o adeg y baledi hir pan oedd gan gynulleidfaoedd ‘attention span’ hirach nag heddiw!

Does dim byd yn Hen Garolau Plygain i esbonio pwy ysgrifennodd yr alaw. Efallai bod hi’n alaw traddodiadol neu’n alaw oedd yn perthyn i gân werin yn barod. Mae’r teitl yn un ddiddorol gan nad ydy hi’n gysylltiedig â geiriau y gân. Efallai Cloch Erfyl oedd enw’r alaw / cân werin wreiddiol neu efallai bod Y Parch Vaughan-Jones wedi rhoi’r enw Cloch Erfyl ar y gân gan fod o wedi ei chyfansoddi yn Llanerfyl pan oedd y cloch yn canu. Os gwyddoch yr ateb cywir, gadewch sylw isod.

Ble Nesaf

Gallwch clywed trefniant Gareth Bonello o’r gân ar y CD Never Mind the Bollocks Here’s the Plygain (2010, Anhrefn Records) dwi wedi crybwyll mewn postiau blaenorol.

Yn Rhagfur 2013 rhuddhaodd Gareth Bonello EP fer o ddarnau offerynnol hyfryd yn seiliedig ar alawon Plygain o’r enw Plygeiniwch! (Bubble Wrap Collective). Gallwch clywed ei fersiwn o Gloch Erfyl ar soundcloud.

Mae Harriet Earis a Sharron Kraus yn chwarae cerddoriaeth offerynnol nadoligaeth. Dwi ddim yn meddwl bod nhw wedi recordio CD on gallwch clywed ychydig o’u gosodiad o Gloch Erfyl ar eu gwefan.

Geiriau

Daeth cennad o’r Nef i Fethlehem dref
I draethu’r newyddion hael
Fod Ceidwad a Brawd yn Faban tylawd
Yn gorwedd mewn beudy gwael,
Ac wele Ef, Tywysog Nef,
Eneiniog mawr y Tad,
Ym mreichiau Mair ar wely o wair
Yn isel ei ystad.

Ffynhonnell yr Iawn yn eiddil a gawn
Ar fronnau Mareia lon;
Rhyfeddod o hyd gweld Iachawdwr y byd
Yn faban ar liniau hon!
Cydgenwch gân, angylion glân,
I foli Aer y Nef:
I’n gwared o’n loes trwy farw ar groes
O’i lys disgynnodd Ef.

Gogoniant i’r Tad a roddwyd ei Fab
Yn bridwerth trosom ni.
Ein cadw fe all rhag poenau y Fall
Drwy rinwedd Calfari.
Hosanna sy yn llonni’r llu
Uwch meysydd Bethlehem;
Yn fychan a mawr, holl deulu y llawr,
Moliannwn Ef. Amen.

The Bell of Erfyl

A few years ago my dad, my brother and I decided to learn a Plygain song or two to sing as a trio in some of the Montgomeryshire Plygain services. We didn’t want to do one of the popular ones, like Daeth Nadolig, otherwise we’d have to make sure we always sang first in case another party sang the song before us! So we looked through the two books of Plygain carols collected by Geraint Vaughan-Jones called Hen Garolau Plygain (Old Plygain Carols) and Mwy o Garolau Plygain (More Plygain Carols) and came across Cloch Erfyl and Bryniau Iwerddon. To our relief we’ve still not heard anyone else sing these songs at a Plygain service.

St Erfyl's Church from wikipedia.

St Erfyl’s Church from wikipedia.

Like Daeth Nadolig, Cloch Erfyl is a Plygain song about the nativity story. But, like lots of Plygain songs, it also talks about the cross and Calvary making it a bit more serious than many modern carols.

I like the musical structure of the song – its AABA structure gives a natural pinnacle to the 5th and 6th lines. The words in these lines in the three verses are appropriate to this musical pinnacle as they talk about seeing Jesus for the first time, singing with the angels and cheers of Hosanna. I also like the touch of polyphony at the end of the A phrases.

Origins

Unfortunately there are no explanatory notes on the songs in Hen Garolau Plygain. The majority of them have the name of the author at the end of the lyrics so we know that Geraint Vaughan-Jones himself wrote the words to Cloch Efyl in 1983. The fact that it wasn’t written until the end of the 20th century explains why there are only 3 verses – some Plygain songs are much longer and come from a the period of long ballads when audiences had longer attention spans than they do today!

There is nothing in Hen Garolau Plygain to explain who wrote the melody. Perhaps it’s a traditional tune or a melody which already belonged to a folk song. The title is interesting because it’s not connected with the lyrics. Perhaps Cloch Erfyl was the name of the original folk song / tune or perhaps the Rev Vaughan-Jones called the tune Cloch Erfyl because he composed it in Llanerfyl when the bells were ringing. If you know the correct answer, leave a comment below.

Where next

You can hear Gareth Bonello’s arrangement of the song on Never Mind the Bollocks Here’s the Plygain (2010, Anhrefn Records) CD which I’ve mentioned in previous posts.

In December 2013 Gareth Bonello released a short EP of lovely instrumental pieces based on Plygain melodies called Plygeiniwch! (Bubble Wrap Collective). You can hear his version of Cloch Erfyl ar soundcloud.

Harriet Earis and Sharron Kraus play instrumental Christmassy music. I don’t think they’ve recorded a CD but you can hear an extract of them playing Cloch Erfyl on their website.

Lyrics

A messenger came from Heaven to Bethlehem town
To declare the good news
That a Savoiur and Brother as a poor Baby
Was lying in a lowly stable,
And see Him, Prince of Heaven,
Anointed by the Father,
In Mary’s arms on a bed of straw
Low in his estate.

The source of Righteousness we find feeble
Feeding on the breasts of glad Maria;
A wonder still to see the Saviour of the world
As a baby on her lap!
Sing a song together, pure angels,
To praise the Heir of Heaven:
In order to deliver us from pain by dying on the cross
He descended from His court.

Glory to the Father who gave his Son
As a dowry for us.
He can protect us from the pains of Evil
Through the virtue of Calvary.
Hosanna cheers the host
Above the fields of Bethlehem;
The small and large, the whole family of earth,
Praise Him. Amen.

Daeth Nadolig

[SCROLL DOWN FOR ENGLISH]

Plygain

Yn y post dwethaf addewais cyflwyniad i’r draddodiad Plygain i fynd efo’r post yma. Mae’r traddodiad o ganu carolau Plygain yn hen iawn – gwyddem o eiriau Catholig rhai o’r caneuon bod hi’n dyddio nôl i’r adeg cyn y diwygiad Protestanaidd yn y 16fed ganrif.

Yn draddodiadol roedd teuluoedd (neu y dynion o leiaf) arfer mynd o gwmpas tai eu cymdogion ar Noswyl Nadolig yn sgwrsio, yfed ac yn tynnu taffi oddi ar yr aelwydydd. Yna basau pawb yn cerdded i’r eglwys wrth olau canwyllau gan gyrraedd tra bod hi dal yn dywyll. Yn adegau hwyrach basau pobl yn mynd i’r dafarn cyn y gwasanaeth yn lle tai cymdogion. Roedd y gwasanaeth yn cymryd lle yng ngolau canwyllau felly mae straeon am fechgyn direudus yn llosgi gwallt y merched yn y sedd o’u blaenau a fe losgodd un eglwys yn Sir y Fflint i lawr yn ystod gwasanaeth! Os aeth y gwasanaeth ymlaen heb broblemau gyda thân basau hi’n mynd ymlaen tan torriad dydd. Daw’r gair ‘Plygain’ o’r lladin ‘pullicantio’, sy’n golygu ‘ar ganiad y ceiliog’ h.y. toriad gwawr.

Y dyddiau hyn mae’r rhan fwyaf o Blygeiniau yn cymryd rhan min nos o tua 6yh tan 8yh. Dechraeodd y Blygain marw allan mewn rhai ardaloedd ond mae yna draddodiad di-dor ym Maldwyn, lle cefais fy magu. Mae Arfon Gwilym, arbennigwr ar ganeuon Plygain, yn dweud taw Malwdyn oedd un o’r llefydd cyntaf i newid i Blygeiniau min nos yn lle ben bore a bod hyn yn allweddol mewn helpu’r traddodiad i barhau. Hefyd, Malwdyn oedd un o’r llefydd lle newidwyd y Plygain o fod yn rhywbeth bore Nadolig yn unig at rywbeth sy’n cymryd lle dros gyfnod y Nadolig. Rwan cewch gwasanaethau o ddechrau Adfent tan y Sul pythefnos ar ôl Nadolig. Ym Maldwyn mae’r cyfnod Plygain yn gorffen efo’r ‘Blygain Fawr’ yn Llanfihangel yng Ngwynfa.

Llanfighangel Church

Llanfihangel yng Ngwynfa church, © Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2001, found via http://www.peoplescollectionwales.co.uk/Home

Mae gwasanaeth Plygain yn wahanol i bob gwasanaeth crefyddol arall byddwch erioed wedi mynychu. Yn gyntaf, dydy’r ficer ddim yn chwarae rôl fawr o gwbwl. Gwelwch fo / hi am 10 munud ar ddechrau’r noson (croeso, darlleniad, cyflwyno carol mae pawb yn canu, yna cyhoeddi bod y Blygain ar agor), munud yn y canol (i gyflwyno carol cynulleidfaol arall) a 5 munud ar y diwedd (i roi bendith). I rywun sydd heb fod i wasanaeth Plygain o’r blaen efallai basau’n edrych fel petai beth sy’n digwydd rhwng y croeso a’r bendith yn digwydd trwy hud ond, mewn gwirionedd, mae’r holl beth yn eithaf anarchaidd!Bydd rhwng 6 a 20 o bartion Plygain yn y gwasanaeth yn barod i ganu ond does neb yn trafod y trefn o flaen llaw. Ar ôl i’r ficer agor y Blygain bydd tamed o oedi – does neb eisiau edrych yn ddigwilydd wrth neidio o flaen parti mwy profiadol a pharchedig. Ar ôl i’r parti cyntaf canu bydd tamed o oedi eto. Oes unrhywun gwir eisiau mynd yn ail, yn enwedig os oedd y parti gyntaf yn dda? Wedi’r ail parti mae’r gwasanaeth yn dechrau rowlio yn fyw naturiol a weithiau bydd mwy nag un parti yn sefyll ar yr un pryd sydd ychydig yn ddigri. Yn y sefyllfa yma mae’r parti sy’n eistedd tuag at flaen yr eglwys yn mynd yn gyntaf tra bod y parti arall yn eistedd lawr ac yn ceisio eto.

Gallwch edrych o gwmpas yr eglwys a cheisio gweld pob parti ac unigolyn rydych yn meddwl bydd eisiau cyfrannu ond does dim modd pendent o wybod faint o bobl bydd yn canu y noson honno. Cewch felly cyfnod arall o oedi ar ôl y parti olaf. “A oes unrhywyn arall eisiau cymryd rhan?” bydd y ficer yn gofyn cyn cyhoeddi bod yr ail rownd ar agor. Mae’r ail rownd yn dilyn yr un trefn a’r rownd cyntaf felly mae llai o oedi a lletchwithdod. Yn yr hen ddyddiau basau’r canu yn parhau tan y wawr a basau rhaid i’r partion paratoi digon o ganeuon i lenwi nifer o rowndiau. Y dyddiau hyn 2 rownd yw’r nifer arferol, 3 os does dim llawer o berfformwyr yn cymryd rhan. Ar ôl y rownd olaf bydd pawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwasanaeth yn dod i flaen yr eglwys i ganu Carol y Swper. Mae’r gân i fod i gyfeirio at y swper olaf, ond dwi wastad yn meddwl bod y cantorion yn meddwl mwy am y swper bydd ar gael yn neuadd yr esglwys / pentref ar ôl ddwy awr o ganu fawr!

Dwi wrth fy modd efo’r ffordd mae’r gwasanaeth yn cymryd rhan efo dim arweinydd na threfn pendant ond digonedd o barch tuag at y partion profiadol. Dwi wedi clywed bod rhai Plygeiniau newydd yn ysgrifennu rhestr o’r partion bydd yn cymryd rhan ac yn rhoi nhw mewn trefn o flaen llaw. Baswn i’n anog y pobl yma i drio’r ffordd traddodiadol o drefnu’r noson.

Mae caneuon Plygain fel arfer yn cael eu canu gan bartion o 3 neu 4 llais, er bod unawdau a deuawdau wedi bodoli eriod. Yn wreiddiol roeddent yn bartion o ddynion yn unig yn canu un llais yr un ac fel arfer roedd y cantorion yn dod o’r un teulu. Roedd rhywun yn y teulu yn ysgrifennu’r geiriau mewn llyfr ymarfer a basau’r cantorion yn dysgu’r alaw ar lafar. Weithiau roedd yr alaw yn newydd, weithiau roedd yn cael ei fenthyg oddi wrth gân gwerin poblogaidd. Daeth rhai beirdd yn enwog am ysgrifennu llawer o garolau Plygain fel Huw Morys (Eos Ceiriog), Jonathan Huws a Walter Davies (Gwallter Mechain).

Mae pethau wedi newid ychydig erbyn hyn, wrth gwrs. Mae merched rwan yn ymuno yn y partion (hwre!), ond dyden nhw dal ddim yn cael canu Carol y Swper ar ddiwedd y noson ym Maldwyn. Dwi’n meddwl bod hwn yn wahanol mewn llefydd eraill. Cewch hefyd partion mawr o 12 person lle mae 3-4 person ar bob llinell ac mae rhai pobl hyd yn oed yn canu allan o lyfrau hen nodiant printiedig!

Arfon Gwilym workshop

Gweithdy Plygain efo Arfon Gwilym yn Arbrawf Mawr cyntaf trac yn defnyddion Hen Garolau Cymru.

Yn wreiddiol, gan fod partion yn sgwennu geiriau a weithiau alawon eu hunain, roedd hi’n ddigwilydd iawn i ganu cân rhywun arall yn yr un gwasanaeth. Mae yna deuluoedd sydd dal yn dod i’r gwasanaethau efo’r llyfrau ymarfer bach, ym Maldwyn o leiaf, ond, gan fod llawer o bobl rwan yn canu allan o’r un llyfrau (Mae Hen Garolau Cymru yn boblogaidd iawn) mae mwy o siawns bydd rhywun yn canu’r gân roeddech chi yn bwriadu canu. Mae’n rhaid felly mynd i’r Blygain efo digon o ganeuon wrth gefn yn eich repertoire!O ran cerddoriaeth, mae gan garolau Plygain ystod eang o ganeuon datgeiniol pwerus at rhai tawel a myfyrgar. Mae llawer o garolau Plygain yn hollol homoffonig ac mae nifer yn swnio fel emyn (fel Teg Wawriodd) ond mae cryn dipyn ohonynt efo elfennau cewstiwn ac ateb (fel Carol Eliseus a Deffrown! Deffrown!). Mae brawddegu yn bwysig o fewn carolau Plygain a byddwch yn darganfod daliant ar eiriau pwysig. Mae carolau Plygain wastad yn cael eu perrfformio yn ddigyfeiliant.

Yn olaf, nodyn ar y geiriau. Mae geiriau cân Plygain fel arfer yn ddwys, cymleth a barddol ac yn sôn nid yn unig am eni Crist ond hefyd am ei fywyd, ei farwolaeth a sut gall pobl ceisio bod yn Gristnogion dda.

Daeth Nadolig

Wedi dweud nad ydy caneuon Plygain o hyd yn ganolbwyntio ar eni Crist, dyma gân sy’n Nadoligaidd iawn. Mae’r geiriau yn crybwyll y baban yn y crud, y seren, y bugeiliad a’r dynion doeth. Mae hi hefyd yn paentio llun del o’r tywydd rydym yn profi ambell i Nadolig – y coedwig yn gwisgo “hugan gwyn” o eira.

Mae’r alaw yn dlos a’r harmoniau yn glos a chynnes, fel sy’n nodweddiadol mewn carolau Plygain. Patrick Dean (o’r Foxglove Trio) a Hedd Thomas (fy mrawd) sy’n canu efo fi yma. Dwi wrth fy modd yn cael canu efo lleisiau mor cyfoethog.

Gwreiddiau

Mae Daeth Nadolig yn cael ei ganu ar yr un alaw a chân gwerin secwlar o’r enw Deio Bach. Mae Parti Cut Lloi yn canu’r gân yma ac yn dweud ar eu wefan bod hi’n dod o hanner gyntaf y 20fed ganrif. Mae Hen Garolau Cymru yn dweud bod hi gan “John Jones, Llangollen, 1801 – 1856” sy’n awgrymu bod y gân Plygain yn hŷn na’r gân secular.

Ble nesaf

Gallwch clywed Daeth Nadolig yn gael ei ganu gan Cogia Llanfihangel ar y CDs yma:

  • Gwŷl y Baban, Sain, 2005, SCD 2519,
  • 101 o Garolau a Chaneuon Nadolig, Sain, 2010
  • Ar Dymor Gaeaf (Carolau Plygain Carols), Sain, 2010

Sonias yn y post dwethaf am CD cynhyrchwyd gan Rhys Mwyn o’r enw Never Mind the Bollocks Here’s the Plygain (Anhrefn Records, 2010). Gwnaeth Lleuwen Steffan fersiwn o Daeth Nadolig ar y CD yma.

Mae sawl llyfr a llyfryn da wedi wedi sgwennu ar y traddodiad Plygain:

  • Trefor M. Owen, Welsh Folk Customs, 1959, tud. 28-33
  • Arfon Gwilym a Sioned Webb (Gol.), Hen Garolau Cymru, Cwmni Cyhoeddi Gwyn, 2006
  • Enid R Morgan (Gol.), Cadw Gŵyl: Llawlyfr i’r Traddodiad Plygain, Bwrdd Cenhadau’r Eglwys yng Nghymru, 2000

Ar gyfer hen nodiant carolau Plygain yn gyffredinol chwiliwch yn:

  • Arfon Gwilym a Sioned Webb (Gol.), Hen Garolau Cymru, Cwmni Cyhoeddi Gwyn, 2006
  • Rhiannon Ifans (Gol.), Yn Dyrfa Weddus: Carolau Ar Gyfer Y Plygain, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2003
  • Hen Garolau, casglwyd gan Geraint Vaughan-Jones, Y Lolfa, 1987
  • Mwy o Garolau Plygain, casglwyd gan Geraint Vaughan-Jones, Y Lolfa, 1992

Geiriau

Daw’r geiriau allan o Hen Garolau Cymru gan Arfon Gwilym a Sioned Webb.

Daeth Nadolig fel arferol,
Daeth fel yn y dyddiau gynt,
Gyda’i eira, gyda’i oerni,
Gyda’i rew a’i ruol wynt.
Yn lle dail i drwsio’r goedwig,
Gwisgr hi â hugan gwyn,
Ac mae miwsig pob aderyn
Wedi darfod yn y glyn.

Daeth Nadolig fel arferol,
Mewn tawelwch mae y byd,
Wrth i ninau gofio’r stori
Am y baban yn ei grud,
Cofio am y seren ddisglair,
Cofio am y preseb tlawd,
Cofio’r engyl yn cyhoeddi
Geni Duw mewn gwisg o gnawd.

Daeth Nadolig fel arferol
Ac mae miswig ym mhob man,
Miwsig rhai yn mynd i Blygain,
Miwsig peraidd glychau’r llan,
Rhaid i ninnau gyda’r doethion
A’r bugeiliaid i gael trem
Ar yr hwn sydd wedi’i eni
Draw ym mhreseb Bethlehem.

Gorfoleddwn a moliannwn,
Ganwyd Ceidwad mawr y byd,
Cyfaill pechaduriad mawrion
Ydyw Iesu Grist o hyd,
Brenin heddwch ydyw’r Iesu
A thangnefedd ar ei wedd,
Dyma frenin y brenhinoedd
Ddysgodd inni gladdu’r cledd.

Mae’r post yma er cof am Arwyn Tyisa, aelwyd o sawl parti Plygain Maldwyn a bu farw yn gynharach yn 2013. Roedd o’n aelwyd gweithgar o Aelwyd Penllys a dwi’n siwr na fasau llawer o gantorion Plygain ifanc heddiw ddim wedi cael cymaint o gyfleuoedd i ymwnud a’r traddodiad oni bai am anogaeth Arwyn a’i parodrwydd i yrru pobl o gympas yn ei Land Rover.

Plygain

In my last post I promised an introduction to the Plygain tradition this time. The Plygain carol singing tradition is very old – we know from some of the songs’ Catholic words that it dates back to the times before the 16th Century Protestant reformation.

Traditionally, families (at least the men) used to visit their neighbours’ houses on Christmas Eve chatting, drinking and ‘pulling toffee’ from hearths. Then everyone would walk to church by candlelight, arriving whilst it was still dark. In later periods people would visit the pub instead of their neighbours’ houses before the Plygain service. Services took place by candlelight so there are stories of naughty boys burning the hair of girls in the pew in front and one church in Flintshire burnt down during a service! If the service progressed without any incendiary problems, it would continue until day break. The word ‘Plygain’ comes from the Latin ‘pullicantio’, which means ‘cock crow’ i.e. at dawn.

These days most Plygains take place in the evening from about 6pm to 8pm. The Plygain started to die out in some areas but there’s an unbroken tradition in Montgomeryshire, where I was brought up. Arfon Gwilym, a Plygain expert, says that Montgomeryshire was one of the first places to switch from dawn services to evening ones and that this was instrumental in helping the Plygain to survive. Montgomeryshire was also one of the places where the Plygain changed from being a Christmas morning only activity to being something that took place throughout the Christmas period. You can now find Plygains taking place from the start of Advent until the Sunday a fortnight after Christmas. In Montgomeryshire the Plygain season ends with the ‘Big Plygain’ in Llanfihangel yng Ngwynfa.

Llanfighangel church

Interior of Llanfighanel yng Ngwynfa church. From http://www.hoadly.co.uk

A Plygain service is different from every other religious service you have ever attended. Firstly, the vicar doesn’t play a very big role at all. You see him / her for 10 minutes at the beginning of the service (to give a welcome, do a reading, introduce a congregational carol and then declare that the Plygain is open), a minute in the middle (to introduce another carol) and 5 minutes at the end (to give a blessing). To a newcomer, it may appear that what happens between the welcome and the blessing happens by magic but it’s actually rather anarchic!

There’ll be between 6 and 20 Plygain parties ready to sing in the service but no one discusses the order beforehand. After the vicar opens the Plygain there’s be a bit of a hesitation – nobody wants to look rude by jumping ahead of a more respected or experienced party. After the first party there’s a bit more of a pause. Does anyone ever really want to go second at something like this, especially if the first party was really good? After the second party the service starts rolling on more naturally. Sometimes two parties stand up at the same time which is a little comical. In this situation the party sitting further forward in the church go first whilst the one nearer the back has to sit down and try again.

You can look around the church to try and spot each party and individual you think will want to contribute but there’s no clear way of knowing how many people will be singing that evening. You’ll therefore have another hesitation after the last party. The vicar will ask if anyone else wants to take part and, after the congregational hymn, declares the second round open. The second round follows the same order as the first so there are fewer pauses and less awkwardness. In the old days the singing went on until dawn and the parties had to prepare enough songs to last many rounds. These days, however, 2 rounds is the norm, or 3 if there aren’t many performers taking part. After the last round everyone who has taken part in the service comes to the front of the church to sing Carol y Swper. The song is supposed to refer to the last supper but I always think the singers are probably thinking more about the supper they’re about to experience in the church / village hall after two hours of singing!

I love the way the Plygain service takes place without leadership or order but with lots of respect shown towards the experienced parties. I have heard that at some revived Plygains a list of the parties taking part is made and the singers are put in an order ahead of the event. I’d encourage these people to try the traditional way of arranging the evening.

Plygain songs are usually sung by trios or quartets although there have always been soloists and duets. Originally the parties were all-male affairs with each singer taking a line each and the singers usually coming from the same family. Someone in the family would write the words in an exercise book and the singers would learn the melody orally. Sometimes it was a new melody, sometimes they were borrowed from popular folk songs. Some poets became famous for writing lots of Plygain carols such as Huw Morys (Eos Ceiriog), Jonathan Huws and Walter Davies (Gwallter Mechain).

Things have changed a bit by now, of course. Women can now join the parties (hooray!), but they still don’t get to sing Carol y Swper ar the end of the night in Montgomeryshire. I think this might be different in other places. You also get big parties of about 12 people where 3 – 4 people sing each line and some people even sing from printed books with musical notation!

Plygain

Plygain singers, from the St Fagans website http://www.museumwales.ac.uk

Originally, as parties wrote their own words and sometimes their own melodies, it was rude to sing someone else’s song in the same service. There are families who still come to the services with thin exercise books, in Montgomeryshire at least, but, as most people now sing out of books (Hen Garolau Cymru is very popular) there’s more of a chance that someone will sing what you were intending to sing. You therefore have to go to a Plygain with enough songs up your sleeve!

In terms of the music, there is a wide range of Plygain carols from powerful, declamatory songs to quiet, contemplative ones. Lots of Plygain carols are completely homophonic and many sound like hymns (such as Teg Wawriodd) but there are also several which have a question and answer element (such as Carol Eliseus and Deffrown! Deffrown!). Phrasing is very important in Plygain carols and you’ll often find a pause on important words. Plygain carols are always performed a cappella.

Finally, a note on the words. Plygain song lyrics are usually very intense, complicated and poetic. They not only talk about Christ’s birth but also about his life, his death and how people can attempt to be good Christians.

Christmas Came

Having said that Plygain songs don’t always focus on Jesus’ birth, Daeth Nadolig is a very Christmassy song. The lyrics talk about the baby in a manger, the star, the shepherds and the wise men. It also paints a pretty picture of the weather we sometimes experience at Christmas time – the trees wearing a “white cloak” of snow.

The melody is pretty and the harmonies are close and warm, as is typical of Plygain carols. Patrick Dean (from The Foxglove Trio) and Hedd Thomas (my brother) are singing with me here. I love singing with such rich voices.

Origins

Daeth Nadolig is sung to the same melody as the secular folk song Deio Bach. Parti Cut Lloi sing this song and they say on their website that it comes from the first half of the 20th century. Hen Garolau Cymru says that it’s by “John Jones, Llangollen, 1801 – 1856” which implies that the Plygain song is older than the secular one.

Where next

You can hear Daeth Nadolig sung by Cogia Llanfihangel on these CDs:

  • Gwŷl y Baban, Sain, 2005, SCD 2519,
  • 101 o Garolau a Chaneuon Nadolig, Sain, 2010
  • Ar Dymor Gaeaf (Carolau Plygain Carols), Sain, 2010

In the last post I mentioned the CD produced by Rhys Mwyn called Never Mind the Bollocks Here’s the Plygain (Anhrefn Records, 2010). Lleuwen Steffan did a version of Daeth Nadolig on this CD.

There are several good books and leaflets about the Plygain tradition:

  • Trefor M. Owen, Welsh Folk Customs, 1959, pp. 28-33
  • Arfon Gwilym and Sioned Webb (Eds), Hen Garolau Cymru, Cwmni Cyhoeddi Gwen, 2006
  • Enid R Morgan (Ed), Cadw Gŵyl: Llawlyfr i’r Traddodiad Plygain, Bwrdd Cenhadau’r Eglwys yng Nghymru, 2000

For Plygain musical notation generally look at:

  • Hen Garolau Cymru, Arfon Gwilym and Sioned Webb (Eds), Cwmni Cyhoeddi Gwyn, 2006
  • Yn Dyrfa Weddus: Carolau Ar Gyfer Y Plygain, Rhiannon Ifans (Ed), Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2003
  • Hen Garolau, collected by Geraint Vaughan-Jones, Y Lolfa, 1987
  • Mwy o Garolau Plygain, collected by Geraint Vaughan-Jones, Y Lolfa, 1992

Lyrics

Christmas came as usual,
It came as in the days gone by,
With its snow, with its coldness,
With its ice and roaring wind,
Instead of leaves to dress the trees,
They wear a white cloak,
And every bird’s music
In the valley has ceased.

Christmas came as usual,
The world is in silence,
As we remember the story
Of the baby in the cradle,
Remember the shining star,
Remember the poor manger,
Remember the angels proclaiming
God’s birth dressed in flesh.

Christmas came as usual
And there’s music everywhere,
Music of those going to the Plygain,
The church bells’ sweet music,
We must go with the wise men
And the shepherds to catch a glimpse
Of the one who’s been born
In a manger in Bethlehem.

We rejoice and we praise,
The Saviour of the world is born,
Jesus Christ remains
A friend to all sinners,
Jesus is the king of peace
And his appearance is peaceful,
This is the king of kings
Who taught us to bury the sword.

I’d like to dedicate this blog post to Arwyn Tyisa, a member of many Montgomeryshire Plygain parties who died earlier in 2013. He was an active member of Aelwyd Penllys and I’ve no doubt that many of today’s young Plygain singers would not have had as many opportunities to get involved in the tradition had it not been for Arwyn’s encouragement and chauffeuring.

Post Navigation

%d bloggers like this: