Caneuon Gwerin

Archwilio ac arddangos caneuon Gwerin o Gymru / Exploring and showcasing folk songs from Wales

Ynglyn a Ffion

Profile

Ffion Mair

Dwi’n gantores gwerin ifanc o Gymru sydd bellach yn byw yn Swyss Hertford. Dwi wedi ennill sawl gwobr canu gan gynnwys trydydd gwobr yng ynghystadleuaeth Trad to Mad 2012, gwobr Cantores Gwerin Gorau yn Eisteddfod  Llangollen 2011 a chyrhaeddais rownd terfynol y gystadleuaeth New Roots yn 2010.

Dwi’n perfformio fel unawdydd a efo The Foxglove Trio. Dwi hefyd yn chwarae ac yn galw ar gyfer twmpathau / ceilidhs ac yn gweithio efo The Spring Healed Jacks ar hyn o’r bryd.

Os hoffech wybod unrhywbeth penodol amdanai gadewch sylw isod!

2 thoughts on “Ynglyn a Ffion

  1. Arfon Gwilym on said:

    Haia Ffion. Newydd weld hwn am ‘Mae’r Ddaear yn Glasu’. Sori i gywiro, ond NID Iolo Morgannwg ddyfeisiodd mesur y tri thrawiad. Llawer hynach na hynny – Ficer Prichard (g. 1579) yn canu arno. ‘Floating verse’??? Amheus. Gallwn yrru cerdd wreiddiol Ioan ab Hywel i ti yn gyflawn. Mae’r pennill sy’n cychwyn ‘Mae’r ddaear yn glasu’ yn ymddangos rhywle yng nghanol y gerdd. ‘Melawd Mai’ yw’r teitl gwreddiol. (Ar ganol golygu cyfrol o ganeuon ‘Canu Haf’).
    Arfon

    Like

Leave a comment