Caneuon Gwerin

Archwilio ac arddangos caneuon Gwerin o Gymru / Exploring and showcasing folk songs from Wales

Ynglyn a’r prosiect

Dwi’n gantores gwerin a dwi’n caru dod o hyd i ganeuon gwerin newydd: caneuon sy’n dweud straeon anarferol, caneuon sy’n peantio llun o emosiwn cryf, caneuon sy’n gwneud i mi chwerthin, caneuon sy’n dysgu fi am hanes, caneuon efo alawon peonus o drist sy’n aros efo chi o hyd a chaneuon efo geiriau anghyffredin ac annisgwyl. Dwi wedi sefydlu’r blog yma er mwyn archwilio ac arddangos caneuon Gwerin o Gymru bydd yn gweddu’r disgrifiadau hyn.

Fel arfer dwi’n dod o hyd i ganeuon newydd trwy edrych mewn cyfrolau o ganeuon gwerin neu trwy clywed rhywun arall yn canu’r gân ar CD, ar lwyfan neu mewn sesiwn. Os ydych yn clywed cân Saesneg yr hoffech chi dysgu ar lwyfan neu mewn sesiwn mae yna siawns dda y bydd tro bach ar google yn arwain chi at dudalennau efo’r geiriau, fideo ar youtube a thradofaeth ar mudcat café ynglŷn â gwreiddiau y gân. Os ydych yn lwcus bydd y canwr arbennig Jon Boden wedi recordio’r gân fel rhan o’i brosiet A Folk Song A Day bydd yn rhoi recordiad, trafodaeth a hefyd doleni at le allwch parhau i ymchwilio’r gân.

Os mai cân Cymraeg neu Cymreig sydd wedi mynd a’ch bryd mewn sesiwn neu ar CD mae’n llawer anoddach dod o hyd i eiriau neu gwybodaeth arlein. Mae nifer o ganeuon gwerin poblogaidd wedi mudo i’r genre classurol ac mae digonedd o wybodaeth ar rain. Ond os ewch haen yn ddyfnach mae chwylio am rywbeth fel ‘Dadl Dau’ neu ‘Deio Bach’ mae’n anodd iawn dod o hyd i recordiad neu geiriau, heb sôn am fideos, gwybodaeth neu trafodaeth ynglŷn a hanes ac ystyr y caneuon.

Dwi’n amau nad ydw i’r unig un sy’n teimlo rhwystredigaeth efo’r sefyllfa yma – mae nifer o aelodau Cymreig ar mudcat cafe, er enghraifft. Dwi felly wedi penderfynnu sefydlu wefan bydd, dwi’n gobeithio, yn cyflwyno pobl i ganeuon gwerin Cymreig newydd ac yn ysgogi cantorion eraill i drin a thrafod hen ganeuon Cymru.

Ar y wefan hon dwi’n bwriadu arddangos un cân gwerin o Gymru pob wythnos. Byddaf yn darparu recordiad o fi’n ei ganu, y geiriau, trosiad bras i’r Saesneg a’r hyn o wybodaeth am y gân dwi wedi llwyddo casglu, gan gynnwys ar ba CDs gallwch ei glywed. Byddaf hefyd yn gwahodd y darllenwyr i adael sylwadau efo mwy o wybodaeth, neu gofyn cwestiynnau, am y gân. Dwi ddim yn bwriadu darparu cerddoriaeth hen nodiant: dwi’n credu taw’r ffordd gorau o ddysgu caneuon gwerin yw trwy’r glust a dwi ddim dynnu oddi ar waith y cyhoeddwyr!

Er mwyn dewis pa ganeuon i arddangos byddaf yn edrych trwy fy llyfrau a CDs am y ganeuon llai adnabyddus dwi’n hoff ohonynt. Byddai’n pori trwy caneuon mewn archifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, Amgueddfa Werin CymruSain Ffagan a Llyfrgell Goffa Vaughan Williams yn Nhŷ Cecil Sharp, Llundain. Byddai hefyd yn hapus i dderbyn ceisiau gan bobl sy’n dilyn y blog!

Rhaid cyfaddef fan hyn mai nad am rhesymau allgarol yn unig dwi’n dechrau yn wefan hwn. Dwi wrth fy modd yn canu a does dim byd dwi’n hoffi gwell na’r teimlad o ddarparu profiad cerddorol newydd i gynulleidfa a dwi felly yn gobeithio bydd addo i recordio a chyhoeddi 1 cân bob wythnos yn fy sbarduno i ddysgu mwy o ganeuon. Dwi’n gobeithio bydd y blog yma yn ffordd i ailgysylltu ac i chwarae rhan yn y gymdeithas gwerin yng Nghymru hyd yn oed os mai dim ond y gymdeithas rhithwir yw hi ar hyn o’r bryd. Dwi hefyd yn gobeithio bydd y brosiect yma yn arwain at fwy o gigs i fi a fy ngrŵp gwerin, The Foxglove Trio!

Dwi’n edrych ymlaen at ddechrau’r brosiect – at rannu caneuon ac adeiladu cymdeithas arlein newydd lle gall pobl trafod a dod o hyd i ganeuon gwerin Cymreig. Dwi’n bwriadu postio fy nghân cyntaf ar 21 Mehefin sef diwrnod canol hâf. Dewch yn ôl bryd hynny i ddarganfod pa gân fydd hi…

6 thoughts on “Ynglyn a’r prosiect

  1. Haia Ffion

    Wel dyma wledd! Rhy dda i’w chloi o fewn un gwefan!

    Fyddet ti’n caniatau i ni e uwchlwytho’r clipiau sain ar Wicipedia (Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg….) Da ni’n defnyddio trwydded agored Comin Creu (CC-BY-SA), a byddai’r clips sain yn cynnwys templad syml efo dy fanylion ee url, manylion cysylltu.

    Gallem drafod ar ebost os wyt ti isio.

    Beth bynnag am hyn, mae’r wledd yma’n flasus, yn broffesiynol iawn ac yn bril!

    Robin

    Like

  2. Helo Ffion. Ma’ fy albwm fod cael ei ryddhau ym mis Ionawr, ond dwi ‘di rhoi’r traciau i fyny ar fy nhudalen Soundcloud os hoffwch chi wilio am eiriau newydd:

    Beth am “Y Cardotyn” er enghraifft? Ffeindiais i’r gan yna yn y llyfr
    Caneuon Traddodiadol y Cymry.

    Dwi’n meddwl fod y brosiect yma’n syniad da iawn.
    Pob lwc
    Nath

    Like

  3. Helo Ffion
    Llongyfarchiadau mawr ar y wefan a’r prosiect. gwych, ac mae wir angen rhywbeth fel hyn ar gyfer caneuon gwerin Cymraeg. Criw ydym ni o Gaerdydd sydd yn trefnu gigs gwerin o gwmpas y ddinas odan yr enw Cwpwrdd Nansi. Hoffwn ni yn fawr dy wahodd di a’r Foxglove trio i ddod i berfformio yn un o’n gigs ni,. rydym ni yn trefnu gigs tua unwaith y mis. Gad wybod os oes diddordeb gen ti.
    nath ni dy glywed di ar y rhaglen radio Sesiwn Fach.
    edrych ymlaen i glywed gen ti.
    Elliw ac Angharad

    Like

    • Diolch yn fawr am eich sylw caredig. Gobeithio byddech chi’n parhau i fwnhau’r blog. Dwi’n gobeithio postio eto canol yr wythnos yma.

      Byddem yn Ne Cymru efo The Foxglove Trio mis Ebrill nesaf a basem yn bendant yn hoffi perfformio yn un o’ch gigs os yn bosib. Anfonnwch ebost at thefoxglovetrio[at]gmail.com i ni cael trafod ymhellach!

      Ffion

      Like

Leave a comment