Caneuon Gwerin

Archwilio ac arddangos caneuon Gwerin o Gymru / Exploring and showcasing folk songs from Wales

Archive for the tag “Eisteddfod”

Y Sguthan

[See below for English]

Dyma gân doniol am ddau dyn ifanc sy’n mynd allan i geisio hel adar. Mae nhw’n paratoi yn dda trwy mynd a gwn a chi efo nhw a mae nhw’n meddwl eu bod nhw wedi llwyddo i ladd rhywbeth. Mae nhw’n mynd a’r aderyn gartref ond mae gwraig y tŷ yn sylwi bod rhywbeth yn arogli’n ddrwg. Mae’n dod i’r amlwg bod yr aderyn wedi marw ers meityn a bod hi’n debyg bod a dynion wedi methu lladd unrhywbeth ar eu trip hela wedi’r cyfan!

Mae’r thema yn debyg i gân yn Saesneg rydym yn perfformio efo’r Foxglove Trio o’r enw The Three Huntsmen – y tro yma 3 helwyr Cymreig sy’n aflwyddianus gan bod nhw methu cytuno beth sy’n fwytadwy.

Mae alaw y Y Sguthan yn un hwylus a syml sy’n meddwl eich bod chi’n gallu canolbwynto ar y stori digri. Mae’r geiriau yn ffraeth a real – mae hyd yn oed geiriau Saesnegaidd megus ‘dreiaf’ a ‘bacio’ ynddi. Dyden nhw ddim yn eiriau barddol iawn, ond basech chi ddim yn credu’r stori cymaint tasu’r geiriau yn fwy sgleiniog. Mae Parti Cut Lloi yn canu ambell i frawddeg yn fwy gramedegol cywir.

Roeddwn i arfer canu’r gân yma ond dwi’n meddwl bod fy mrawd, Hedd Thomas, yn ei wneud hi’n well felly fo sy’n canu yma.

Read more…

Dod dy Law

[Scroll down for English]

Mae llawer o’r bobl sy’n ymddiddori yng ngherddoriaeth gwerin yn bendant bod rhaid dyfynnu ffynhonnell pob cân ac alaw rydych chi’n perfformio. Dwi’n cytuno bod hi’n angenrheidiol i gyfeirio at rywun sydd wedi ysgrifennu geiriau neu alaw i gân rydech chi’n perfformio ac os ydych chi wedi penderfynnu dysgu’r gân ar ôl clywed unigolyn penodol yn ei berfformio mae hi’n caredig i gydnabod hyn.

Ond mae gen i ddau broblem efo’r mynnu hyn ar ddyfynnu ffynhonnellau: 1) Os ydych yn traddodi stori hir am ffynhonnell pob cân cyn ei berfformio gall eich set 40 munud mynd yn ‘formulaic’ a diflas efo mwy o amser yn cael ei wario ar straeon am y ganeuon nag ar y gerddoriaeth 2) Yn aml mae’n amhosib dweud o ble daethoch chi o hyd i’r gân yn y lle gyntaf! Un arwydd o sîn gwerin iachus yw fod pobl yn tyfu fynny yn canu a nabod caneuon gwerin efo dim syniad o bwy recordiodd hi’n gyntaf. Yn wir, dyma un o’r brif pethau sy’n gwneud y caneuon hyn y ganeuon gwerin – mae nhw’n perthyn i bawb yn hafal gan fod neb yn gwybod enw’r dyn neu’r dynes a ysgrifennodd hi yn y lle gyntaf.

Cân felly yw Dod Dy Law i mi. Dwi’n gwybod, o wneud ychydig o ymchwil, bod y gân wedi cael ei gasglu gan Miss Tydfil Roberts o Lanerfyl sy’n agos i’r pentref Llanwddyn ble cefais i fy magu felly mae’n debyg fy mod i wedi cywed hi’n gyntaf gan rywun o’r ardal leol fel Sian James neu Glandon o Barti Cut Lloi. Serch hyn dwi ddim yn cofio’r tro cyntaf i mi glywed i gân na gan bwy dysgais i’r geiriau neu’r alaw.

(Photo credit Gabrielle Kai Photography)

(Photo credit Gabrielle Kai Photography)

Pan dwi’n perfformio efo’r Foxglove Trio dwi’n aml yn dweud taw Bugeilio’r Gwenith Gwyn yw’r gân mwyaf trist yn y repertoire o ganeuon gwerin Cymreig. Ond mae hyn oherwydd y stori sy’n mynd efo’r gân am gariad gwaharddedig Wil Hopcyn ac Anne Thomas. Wrth edrych ar y geiriau yn lle y cyd destyn, dwi’n sicr taw Dod dy Law yw’r gân mwyaf emosiynol, os nad y gân tristaf, dwi’n nabod. Mae’n gân fyr iawn – dim ond 3 pennill o 4 llinell yr un – ond mae pob gair yn hynnod o bwerus.

Mae geiriau’r cân o safbwynt rhywun sydd wedi cael eu brifo gan cyn gariad ac mae nhw’n siarad yn syth at y cariad yma gan ddweud, efallai nad ydych wedi sylweddoli hyn, ond rydych chi wedi torri fy nghanol a dwi ddim yn gwybod os byddai eriod yn gwella. Mae’r alaw yn syml ond yn gweddu’r ddicter a’r tristwch yn y gân yn berffaith.

Geiriau

Daw’r geiriau hyn o wefan Gwenan Gibbard. Dwi wedi newid y geiriau “pob dyn unig” i “pob un unig” i wneud hi’n gân unrhyw.

Dod dy law on’d wyt yn coelio
Dan fy mron a gwylia ’mriwio,
Ti gei glywed os gwrandewi
Swn y galon fach yn torri.

O f’anwylyd, cymer frwynen
Ac ymafael yn ei deupen,
Yn ei hanner tor hi’n union
Fel y torraist ti fy nghalon.

Trwm yw’r plwm a thrwm yw’r cerrig
Trwm yw calon pob un unig,
Trymach fyth dan haul a lleuad
Yw canu’n iach lle byddo cariad.

Gwreiddiau

Yn ol wefan Parti Cut Lloi Casglwyd Dod dy Law gan Amy Parry-Williams o Gymdeithas Alaw Werin Cymru oddi wrth Miss Tydfil Roberts, Y Rectory, Llanerfyl. Dwedodd Miss Roberts bod hi wedi clywed y gân gan ei mam.

Ble nesaf?

Mae sawl act cyfoes wedi recordio Dod dy Law yn ddiweddar:

  • Siân James, Y Ferch o Bedlam, Recordiau Bos Records, 2005
  • Gwenan Gibbard, Y Gwenith Gwynnaf, Sain (SCD2504), 2006
  • Fiona & Gorwel Owen, Spring Always Comes, Yamoosh!, 2008
  • Linda Griffiths, Blodeugerdd: Song of the Flowers – An Anthology of Welsh Music and Song, Smithsonian Folkways Recordings (SFW40552), 2009

Heblaw am wefannau rhai o’r gantorion hyn dwi ddim yn meddwl bod y gân wedi cael ei argraffu unrhyw le. Mae llawer of ganeuon gwerin wedi cael eu argraffu er mwyn iddynt bod yn ddarn gosod mewn Eisteddfod ond dwi’n amau basu yna teimlad bod Dod dy Law yn rhy ddwys i berfformwyr ifanc a rhy fyr ac anuchelgeisiol i’r rhai hyn a bydd hi felly byth yn cyrraedd llwyfan yr Eisteddfod. Os ydych chi’n gwybod am unrhyw argraffiad neu os ydw i’n anghywir ac mae’r gân eisioes wedi chwarae rhan mewn Eisteddfod gadewch i mi wybod!

Place your Hand

(Photo credit Gabrielle Kai Photography)

(Photo credit Gabrielle Kai Photography)

Lots of folkies are adamant that you have to cite the source of every song or tune you perform. I agree it’s essential to credit known composers of lyrics or melodies and if you’ve decided to learn a song as a result of hearing a certain individual performing it then I think it’s polite to acknowledge this.

However I do have two problems with the insistence on citing: 1) If you tell a long story about the source of each song before you perform it a 40 minute set can become formulaic and boring and you risk spending more time talking about songs than actually making music. 2) Often it’s impossible to say where you first came across a song! One sign of a healthy folk scene is that people grow up singing and knowing folk songs without knowing who first recorded them or which part of the country they were original sung in. In fact, this is one of the elements that make these songs folk songs – they belong to everyone equally because no one knows who created them.

For me, Dod dy Law is one of these song. I know, having done some research, that the song was collected from Miss Tydfil Roberts from Llanerfyl which is near Llanwddyn, the village where I was brought up, so it’s possible that I first heard it from someone in the local area like Siân James or Glandon from Parti Cut Lloi. However, I don’t remember the first time I heard the song or who I learnt the lyrics and tune from.

When I perform with The Foxglove Trio I often say that Bugeilio’r Gwenith Gwyn is the saddest song in the Welsh folk song repertoire. But this is because of the back story about Wil Hopcyn and Anne Thomas’ forbidden love. When looking at the lyrics instead of the context, Dod dy Law is certainly the most emotional, if not the saddest, song I know. It’s a very short song – only 3 verses of 4 lines – but each word packs a punch.

The lyrics are sung from the point of view of someone who has been hurt by an ex-lover and they’re speaking directly to that lover saying, perhaps you haven’t realised it, but you’ve completely broken my heart and I don’t know if I’ll ever recover. The tune is simple but it suits the rise and fall or the anger and sadness in the lyrics perfectly.

Lyrics

These lyrics are translated by Dafydd Iwan and taken from Gwenan Gibbard’s website. The original lyrics say “pob dyn unig” (all lonely men) but I sing “pob un unig” (each lonely one) to make it a unisex song. Interestingly, Dafydd’s translation already says “all lonely people”.

Place your hand, lest you believe,
On my breast, without hurting me,
If you listen, you may hear
The sound of my little heart breaking.

Oh my dearest, take a reed
And hold it at both ends,
Break it in half
Just as you broke my heart.

Heavy the lead, heavy the stones,
Heavy is the heart of all lonely people,
Heaviest of all, twixt sun and moon,
Is bidding farewell where there is love.

Origins

According to Parti Cut Lloi‘s website Dod dy Law was collected by Amy Parry-Williams of the Welsh Folk Song Society from Miss Tydfil Roberts, The Rectory, Llanerfyl. Miss Roberts said that she had heard the song from her mum.

Where next?

Several contemporary acts have recorded Dod dy Law recently:

  • Siân James, Y Ferch o Bedlam, Recordiau Bos Records, 2005
  • Gwenan Gibbard, Y Gwenith Gwynnaf, Sain (SCD2504), 2006
  • Fiona & Gorwel Owen, Spring Always Comes, Yamoosh!, 2008
  • Linda Griffiths, Blodeugerdd: Song of the Flowers – An Anthology of Welsh Music and Song, Smithsonian Folkways Recordings (SFW40552), 2009

Other than websites of some of these singers I don’t think the song has been printed anywhere. Many Welsh folk songs have been printed in order for them to be a set piece at an Eisteddfod but I suspect Dod dy Law would be deemed too deep for younger singers and too short and musically unambitious for the older ones and will therefore never reach the Eisteddfod stage. If you know of any publications or if I’m wrong and the song has already been part of an Eisteddfod do let me know!

Post Navigation